Gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul

Oddi ar Wicipedia
Hemaris tityus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Sphingidae
Genws: Hemaris
Rhywogaeth: H. tityus
Enw deuenwol
Hemaris tityus
(Linnaeus, 1758)[1]
Cyfystyron
  • Sphinx tityus Linnaeus, 1758
  • Sphinx musca Retzius, 1783
  • Sphinx bombyliformis Linnaeus, 1758
  • Macroglossa scabiosae Zeller, 1869
  • Macroglossa knautiae Zeller, 1869
  • Hemaris tityus reducta Closs, 1917
  • Hemaris tityus karaugomica Wojtusiak & Niesiolowski, 1946
  • Hemaris tityus flavescens Cockayne, 1953
  • Haemorrhagia tityus ferrugineus Stephan, 1924

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwalchwyfynod gwenynaidd ymyl gul; yr enw Saesneg yw Narrow-bordered Bee Hawk-moth, a'r enw gwyddonol yw Hemaris tityus.[2][3] Mae'n un o ddau wyfyn o deulu'r Sphingidae sy'n dynwared y wenynen o ran lliw ei chorff. Mae ei diriogaeth yn eitha eang: o Iwerddon ar hyd Ewrop i Fynyddoedd yr Wral, Gorllewin Siberia ac hyd at Altai. Caiff ei weld hefyd o Tian Shan i'r dwyrain hyd at Mongolia ac i ogledd-ddwyrain Tsieina ac i'r de hyd at Tibet. Mae clwstwr annibynnol ohonynt hefyd hefyd ar gael rhwng Twrci ac Iran.

Mae'r oedolyn i'w weld rhwng Mai a Mehefin yng ngwledydd Prydain a hynny liw dydd, sy'n ei wneud yn wahanol i weddill teulu'r sphingidau. Fel arfer fe'i welir o ganol y bore hyd at ddechrau'r cyfnos.[4]

Mae'n hoff iawn o wlyptir coediog, gyda'r siani flewog yn gwledda ar Succisa pratensis a Knautia arvensis. 40 – 50 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn.

Gwybodaeth gyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "CATE Creating a Taxonomic eScience - Sphingidae". Cate-sphingidae.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-10. Cyrchwyd 2011-10-19.
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  4. "''Hemaris tityus''". Tpittaway.tripod.com. Cyrchwyd 2011-10-19.