Gwalch y Pysgod

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Osprey
Isrywogaeth o Ogledd America
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Accipitriformes neu Falconiformes
Teulu: Pandionidae
Sclater & Salvin, 1873
Genws: Pandion
Savigny, 1809
Rhywogaeth: P. haliaetus
Enw deuenwol
Pandion haliaetus
(Linnaeus, 1758)


Aderyn ysglyfaethus yn byw yn bennaf ar bysgod yw Gwalch y Pysgod (enw gwyddonol: Pandion haliaetus). Mae ganddo ddosbarthiad eang iawn trwy'r byd, ac yn un o'r ychydig adar sydd i'w cael ar bob cyfandir heblaw yr Antarctig. Mae'n 60cm mewn hyd a 180 cm o adain i adain. Brwon ydy rhan uchaf ei gorff a'r rhan isaf yn wyn; mae ymylon ei lygaid yn blu du, a'i esgyll hefyd.

Ar bysgod y mae Gwalch y Pysgod yn byw, bron yn gyfangwbl, ac mae'n plymio i'r dwr draed ar gyflymder uchel i'w ddal gyda'i grafangau. Mae sbigau bychain ar y traed sy'n ei gynorthwyo i ddal gafael mewn pysgodyn. Yn Ewrop mae Gwalch y Pysgod yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yng ngorllewin Affrica.

Mae'n nythu gerllaw llynnoedd ac afonydd fel rheol, ond ambell dro gerllaw dwr hallt. Ran amlaf mae'r nyth, sy'n gasgliad sylweddol iawn o frigau, mewn coeden, ond gall nythu ar lawr os yw mewn lle diogel, er enghraifft ar ynys fechan ynghanol llyn.

Diflannodd yr aderyn ysglyfaethus hwn o wledydd Prydain yn 1916. Fe gafodd Gwalch y Pysgod ei ddifa'n llwyr o'r Alban yn nechrau'r Ugeinfed Ganrif gan erledigaeth gan ddyn: saethu a chasglu wyau, ond dychwelodd i nythu yno yn y 1950au ac erbyn 2012 roedd yno mwy na 200 o barau.

Yng Nghymru[golygu]

Y Ganolfan Wylio yn Nyffryn Dyfi.

Yn 2004 nythodd yng Nghymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, ger Llyn Glaslyn. Yn 2005 magodd pâr gerllaw Porthmadog ddau gyw a sefydlodd yr RSPB ganolfan ymwelwyr gerllaw'r nyth. Daeth tua 50,000 o bobl i'w gweld yn ystod yr haf. Mae'n nhw yn dal yno, a bellach, ceir pâr arall yn nythu yng Nghors Dyfi, ble ceir cuddfan i'w gwylio. Man arall da i'w gwylio rhwng Mawrth a Medi yw Canolfan Ymwelwyr yr RSPB ger Pont Croesor, Porthmadog.

Mae'r adar sydd yng Nghymru yn fudol ac erbyn mis Medi maent yn gadael am wledydd cynhesach Gorllewin Affrica.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolennau allanol[golygu]