Gwaedlif isaracnoid

Oddi ar Wicipedia
Gwaedlif isaracnoid
Dosbarthiad ac adnoddau allanol

Sgan CT o'r ymennydd yn dangos gwaedlif isaracnoid fel rhan wen yn y canol
ICD-10 I60., S06.6
ICD-9 430, 852.0-852.1
OMIM 105800
DiseasesDB 12602
MedlinePlus 000701
eMedicine med/2883 neuro/357 emerg/559
MeSH [1]

Gwaedlif i mewn i'r gofod isaracnoid yw gwaedlif isaracnoid. Mae'n digwydd pan fydd rhydweli sy'n agos at wyneb yr ymennydd yn rhwygo ac yn gollwng gwaed i'r hylif serebro-sbinol sy'n amgylchynu'r rhwydwaith o waedlestri rhwng y pia mater (pilen fewnol y meninges) a'r arachnoid mater (pilen ganol y meninges). Mae'n gyflwr difrifol iawn, a all fod yn farwol, sydd angen sylw meddygol brys arno.[1]

Symptomau[golygu | golygu cod]

Mae symptomau cyffredin gwaedlif isaracnoid yn cynnwys cur pen difrifol iawn sy'n digwydd yn gyflym, chwydu, cysgadrwydd, colli ymwybyddiaeth, ffitiau, a dryswch. Gall symptomau ychwanegol gynnwys atgasedd o olau llachar (ffotoffobia) a gwddf anystwyth. Gall symptomau amrywio yn ôl y claf neu ddifrifoldeb yr achos. Weithiau gall symptomau fod yn debyg i feningitis.[2]

Achosion[golygu | golygu cod]

Achosir tua 75% o waedlifau isaracnoid gan nam mewn gwaedlestr a elwir yn berry aneurysm, sydd yn gyflwr cynhenid. Chwydd bychan mewn cyffordd yn un o'r gwaedlestri yw'r fath hon o ymlediad. Mae gan tua 1% o bobl berry aneurysm, ond dim ond cyfran fach o'r rhain sy’n achosi rhwyg yn y gwaedlestr.[3]

Achos llai cyffredin o waedlif isaracnoid yw camffurfiad rhydwythiennol, cyflwr cynhenid lle bo màs clymog o waedlestri sy'n cysylltu rhydwelïau a gwythiennau. Mae gwaedlifau isaracnoid a achosir gan gamffurfiadau rhydwythiennol yn llai difrifol yn gyffredinol na'r rheiny a achosir gan ymlediadau, ond maent dal yn argyfyngau meddygol difrifol.[3]

Diagnosis[golygu | golygu cod]

Gwneir diagnosis cychwynnol o waedlif isaracnoid ar sail y symptomau nodweddiadol. Ymysg y profion a wneir i gadarnháu diagnosis a phenderfynu ar y driniaeth fwyaf priodol yw: sgan CT, i ddangos lleoliad a maint y gwaedlif; sgan MRI ac/neu angiogram, i chwilio am berry aneurysm os yw'n bresennol yn y rhwydwaith o waedlestri; a phigiad meingefnol, a ddefnyddir yn anaml i ganfod os oes olion gwaed yn hylif serebro-sbinol y claf.[4]

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Gan fod gwaedlif isaracnoid yn gyflwr difrifol mae angen llawdriniaeth gymhleth ar yr ymennydd i'w drin, ac o bosib bydd angen i glaf derbyn gofal mewn uned gofal dwys a derbyn llawdriniaeth mewn uned niwrolawdriniaeth. Mae niwrolawfeddygon yn rhoi cyngor i gleifion penodol ar y driniaeth fwyaf priodol.[5]

Yn aml defnyddir llawfeddygaeth twll clo i drin berry aneurysm. Trwy broses coilio endofasgwlaidd (math o emboleiddio) caiff lleoliad yr ymlediad ei gyrraedd drwy rydweli, a gosodir coil metel bychan yng nghanol yr ymlediad.[5]

Mewn achos o gamffurfiad rhydwythiennol, gwneir creuandoriad i waredu'r camffurfiad yn llwyr. Mae'r llawdriniaeth hon yn cynnwys defnyddio clip metel bychan i selio'r ymlediad fel na all waedu eto.[5]

Defnyddir cyffuriau megis atalyddion sianel calsiwm i gadw pwysedd gwaed i lawr, i leihau'r risg o gael strôc, ac i leihau'r risg o gymhlethdodau.[5]

Epidemioleg[golygu | golygu cod]

Cyflwr prin iawn yw gwaedlif isaracnoid. Mae llai na 10,000 achos yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Mae'r mwyafrif o bobl sy'n cael eu heffeithio ganddo rhwng 35 a 65 oed. Er hyn, mae'n anodd dweud bob amser pwy sy'n wynebu risg o gael gwaedlif isaracnoid.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Gwaedlif isaracnoid: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Ionawr, 2010.
  2.  Gwaedlif isaracnoid: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Ionawr, 2010.
  3. 3.0 3.1  Gwaedlif isaracnoid: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Ionawr, 2010.
  4.  Gwaedlif isaracnoid: Diagnosis. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Ionawr, 2010.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3  Gwaedlif isaracnoid:Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 8 Ionawr, 2010.