Guto Harri

Oddi ar Wicipedia
Guto Harri
Ganwyd8 Gorffennaf 1966 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadHarri Pritchard Jones Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr, ysgrifennydd ac ymgynghorydd cyfathrebu strategol o Gymro yw Guto Harri (ganwyd 8 Gorffennaf 1966). Yn Gymro Cymraeg cafodd ei fagu yng Nghaerdydd, yn fab i'r meddyg a llenor Harri Pritchard Jones a'i wraig Lenna (née Harries), a oedd yn gynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda'r BBC.

Addysg[golygu | golygu cod]

Aeth i'r ysgol gynradd yn Nhonyrefail ac yna Ysgol Uwchradd Llanhari cyn mynd ymlaen i Goleg y Breninesau, Caergrawnt i astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg.[1] Yna gwnaeth gwrs ôl-radd mewn newyddiaduraeth yng Ysgol Newyddiaduriaeth, Prifysgol Caerdydd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd ei yrfa ddarlledu ar BBC Radio Cymru cyn symud i deledu, gan weithio fel gohebydd ar raglen Newyddion S4C. Roedd yn gyflwynydd ar raglenni etholiadol BBC Cymru ac ymddangosodd yn rheolaidd ar draws rhaglenni teledu a radio'r BBC megis The World at One, Westminster Live, Straight Talk, Despatch Box a The World This Weekend. Bu'n ohebydd yn ystod newidiadau gwleidyddol mawr gyda chwymp Comiwnyddiaeth yn Rwmania, Tsiecoslofacia a Dwyrain yr Almaen cyn gohebu ar Ryfel o Gwlff o Saudi Arabia, Jordan a gogledd Irac. Daeth yn Brif Ohebydd Gwleidyddol y BBC yn Nhachwedd 2002 ac roedd hefyd yn cyflwyno'r rhaglen gyfweld wythnosol, One To One.

Symudodd am gyfnod byr i Rufain rhwng Gorffennaf 2004 ac Ionawr 2006 ac yna daeth yn ohebydd busnes Gogledd America wedi ei leoli yn Efrog Newydd hyd at Fehefin 2007. Wedi gadael y BBC ar ddiwedd 2007, cafodd gynnig i weithio i arweinydd y Blaid Geidwadol, David Cameron ond penderfynodd ymuno ag asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus Fleishman-Hillard fel Uwch-ymgynghorwr Polisi, gan dreulio pedair wythnos fel ymgynghorwr i arweinydd yr wrthblaid yn Simbabwe, Morgan Tsvangirai.[1]

Cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson, Maer Llundain yn Mai 2008.[2] ac ym Mai 2012 cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Cyfathrebu News International.[3] Fe adawodd y swydd honno ar ddiwedd 2015 ac fe ymunodd â Liberty Global, cwmni sy'n berchen ar fusnes Virgin Media yn Chwefror 2015 fel rheolwr-gyfarwyddwr eu cysylltiadau cyhoeddus.[4][5]

Yn Rhagfyr 2017 cyhoeddodd y bydd yn gadael ei swydd gyda Liberty Global i ddod yn ohebydd gwleidyddol newydd y cylchgrawn GQ.[6]

Roedd yn gyflwynydd GB News am ddau fis yn 2021, ond cafodd ei ymddiswyddo gan y darlledwr o ganlyniad ei fod wedi cymryd y pen-glin (take the knee) mewn cefnogaeth i'r tîm pêl droed Lloegr. Ar ôl i'r gwylwyr y rhaglen cwyno fe wnaeth GB News ei ymddiswyddo, gyda Harri yn dweud ei fod wedi dioddef o'r 'diwylliant canslo' (cancel culture) or ochor dde eithafol.[7][8]

Rhwng Mehefin 2018 a Chwefror 2022 roedd Harri yn brif gyflwynydd rhaglen S4C Y Byd Yn Ei Le, gyda S4C yn dweud na fydd hawl gyflwyno ar ôl ymuno â thîm Boris Johnson yn Stryd Downing. Yn Chwefror 2022 ar ôl i Jack Doyle, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson, ymddiswyddo cafodd Harri ei ddewis fel ei Gyfarwyddwr Cyfathrebu newydd.[9] Cafodd ei benodiad ei farnu yn hallt gan rhai Cymry ar wefannau cymdeithasol wrth iddo fynd i weithio i Brif Weinidog dadleuol, gyda cyhuddiadau fod Johnson wedi torri rheolau COVID ac wedi dweud celwydd wrth y Senedd.[10] Yn ogystal cafodd ei feirniadu gan y cyn prif ymgynghorydd i Boris Johnson, Dominic Cummings, a ddywedodd fod Harri wedi bod yn feirnadiol o Johnson ar sawl achlysur.[11] Yn dilyn ymddiswyddiad Boris Johnson fel Prif Weinidog, gadawodd Harri yntau ei swydd ar 6 Medi 2022.[12]

Er gwaethaf ei feirniadaeth o Boris Johnson, cafodd Harri y CBE yn rhestr anrhydeddau ymddiswyddo Johnson ym Mehefin 2023.[13]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod ac mae ganddo dri o blant.[14] Tu allan i'r gwaith, mae'n mwynhau rhwyfo, hwylio, pysgota a choginio.[15] Roedd yn aelod o awdurdod S4C rhwng 2014 a 2018 ac mae'n aelod anweithredol o fwrdd Gŵyl y Gelli.[16]

Mae ei chwaer Nia hefyd yn ohebydd a golygydd newyddion gyda'r BBC.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Boris Johnson signs BBC journalist Guto Harri as his chief spin doctor". Daily Mail. 9 Mai 2008. Cyrchwyd 9 Mai 2008.
  2.  Guto i gydweithio â Boris. BBC (9 Mai, 2008). Adalwyd ar 10 Mai, 2008.
  3.  Boris Johnson's former aide takes PR job with News International. The Guardian (20 Mai, 2012). Adalwyd ar 17 Medi, 2012.
  4. Mulholl, Hélène. "Boris Johnson's former aide takes PR job with News International". the Guardian. Cyrchwyd 5 Ionawr 2016.
  5. Sweney, Mark. "News UK PR chief Guto Harri to join Virgin Media owner Liberty Global". the Guardian. Cyrchwyd 5 Ionawr 2016.
  6. Guto Harri yw golygydd gwleidyddol newydd cylchgrawn GQ , Golwg360, 14 Rhagfyr 2017.
  7. "Guto Harri am roi'r byd yn ei le yn Downing Street?". Golwg360. 2022-02-05. Cyrchwyd 2022-02-06.
  8. Harri, Guto. "They claim to believe in free speech, but not when I took the knee" (yn Saesneg). ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 2022-02-06.
  9. "Guto Harri yw rheolwr cyfathrebu newydd Boris Johnson". BBC Cymru Fyw. 2022-02-05. Cyrchwyd 2022-02-06.
  10. "Post Trydar Nation.cymru". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-06.
  11. "Dominic Cummings attacks Guto Harri appointment as No 10 PR chief". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-02-06. Cyrchwyd 2022-02-06.
  12. Guto Harri says Boris Johnson was 'an exceptional Prime Minister' as he leaves Number 10 post (en) , WalesOnline, 7 Medi 2022. Cyrchwyd ar 3 Ionawr 2022.
  13. "Resignation Honours 2023" (PDF). gov.uk (yn Saesneg). 9 Mehefin 2023. Cyrchwyd 9 Mehefin 2023.
  14. "BBC Press Office biography". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-24. Cyrchwyd 2016-08-26.
  15. Neil Prior (21 Mai 2012). "Profile: Guto Harri goes from Boris Johnson to News International PR chief". BBC News.
  16. Proffil LinkedIn

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]