Guto'r Glyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yn fardd Cymraeg oedd yn perthyn i draddodiad Beirdd yr Uchelwyr.

Bywgraffiad[golygu]

Cysylltir Guto â Glyn Ceiriog, lle'r oedd nifer o'i noddwyr yn byw. Ysgrifennodd gerddi i noddwyr ym mhob rhan o Gymru, ac ystyrir ef yn un o feistri'r canu mawl.

Gellir casglu o'i farddoniaeth fod Guto wedi bod yn filwr. Yr oedd yn bleidiwr brwd i blaid yr Iorciaid yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, a chyfansoddodd gerddi i glodfori y brenin Edward IV ac Iarll Penfro, William Herbert, prif gefnogwr yr Iorciaid yng Nghymru.

Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf fel gwestai yn Abaty Sistersaidd Glyn y Groes, ger Llangollen. Roedd ei gyfaill agos Gutun Owain yn ymwelydd cyson â'r abaty hefyd, a chanodd farwnad i'w gyfaill. Mae'n debygol fod Guto wedi ei gladdu ar dir yr abaty.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Gwaith Guto'r Glyn, golygwyd gan Ifor Williams, casglwyd gan John Llywelyn Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1939)


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.