Guidnerth

Oddi ar Wicipedia

Arglwydd o Gymro oedd Guidnerth (fl. yn y 9g). Mae'n cael ei enwi yn Llyfr Llandaf (argraffiad G. Evans, Oxford 1893, p. 181).

Daeth o Gymru i Lydaw ar bererindod. Yn nhref Dôl (tref enedigol y sant mawr Samson, a gafodd ei ddysgu yng Nghymru tua thri chanrif cyn hynny) y dywedodd ei bechodau o flaen y werin achos "ei fod yn siarad yr un iaith â'r bobol a'r archesgob," ac "roedd yn gallu gofyn am faddeuant am fod ei iaith yn cael ei deall."

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Léon Fleuriot, A Dictionary of Old Breton – Dictionnaire du vieux breton, Part 1 (Toronto, Prepcorp Limited, 1985), tudalen 13.