Guaraní (pobl)
Oddi ar Wicipedia
Grŵp ethnig brodorol o Dde America yw'r Guaraní. Maent yn byw yn Paraguay a rhai ardaloedd cyfagos yn yr Ariannin, Bolivia a Brasil. Mae tua 40,000 ohonynt yn Paraguay a thua 30,000 ym Mrasil.
Mae'r iaith Guaraní yn un o ieithoedd swyddogol Paraguay, lle mae canran uchel o'r boblogaeth yn ei siarad. Roedd y Guaraní yn un o'r cyntaf o bobloedd brodorol De America i ddod i gysylltiad ag Ewropeaid, pan gyrhaeddodd y Sbaenwr Juan Díaz de Solís y Río de la Plata yn 1511. Yn 1537, hwyliodd Juan de Salazar y Espinoza ar hyd afon Paraguay, a bu mewn cysylltiad a'r Guaraní.