Grwpiau ethnig yn Affrica

Oddi ar Wicipedia
Map o brif grwpiau ethno-ieithyddol Affrica (1996):
Affro-Asiaidd
     Hamitaidd (Berber, Cwshitig) + Semitaidd (Ethiopaidd, Arabaidd)
     Hausa (Tsiadaidd)
Niger–Congo
     Bantw
     "Ginïaidd" (Folta-Niger, Kwa, Kru)
     "Bantw Gorllewinol" (Atlantaidd)
     "Bantw Canolig" (Gur, Senufo)
     "Bantw Dwyreiniol" (Bantw Deheuol)
     Mandé
Nilo-Saharaidd (dadleuol)
     Nilotig
     Swdanaidd Canolig, Swdanaidd Dwyreiniol
     Kanuri
     Songhai
other
     Khoi-San (dadleuol; Khoikhoi, San, Sandawe + Hadza)
     Malayo-Polynesaidd (Malagasiaid)
     Indo-Ewropeaidd (Affricaneriaid)

Mae miloedd o grwpiau ethnig yn Affrica.

Arabiaid a Berberiaid[golygu | golygu cod]

Pobloedd golau eu croen neu wineuddu sydd yn frodorol i'r gwledydd ar hyd arfordir y Môr Canoldir yng Ngogledd Affrica. Yn hanesyddol cawsant eu galw'n Hamitiaid a Semitiaid gan yr Ewropeaid, oherwydd y goel taw disgynyddion meibion NoaHam a Sem – oeddynt. Arabiaid ydy'r mwyafrif ohonynt, yn perthyn i bobloedd Arabia, y Lefant, ac Irac, ac yn edrych yn debyg i Ewropeaid gyda chroen tywyll.

Trigasant y Berberiaid yng Ngogledd Affrica, ac mae ganddynt groen brown golau a gwallt brown, yn wahanol i bob grŵp gynhenid arall yn Affrica a chanddynt wallt du. Hwy yw brodorion yr ardal o Ogledd Affrica i'r gorllewin o ddyffryn Afon Nîl ac i'r gogledd o Afon Niger. Ieithoedd brodorol y Berberiaid yw'r ieithoedd Berber, sy'n gangen o'r ieithoedd Affro-Asiaidd. Erbyn heddiw, mae llawer o'r Berberiaid yn Arabeg eu hiaith, ond mae rhwng 14 a 25 miliwn o siaradwyr yr ieithoedd Berber yn byw yng Ngogledd Affrica, y rhan fwyaf yn Algeria a Moroco, ond hefyd mewn rhannau eraill o'r Maghreb a thu hwnt.

Y bobloedd dduon[golygu | golygu cod]

I dde'r anialwch gogleddol, yn y rhan enfawr o'r cyfandir a elwir Affrica is-Saharaidd, mae tiroedd brodorol y bobloedd dduon, a elwid yn hanesyddol yn Negroaid. Fel rheol, mae ganddynt wallt trwchus cyrliog, a braidd dim blew corff. Maent i gyd yn groenddu, ond mae rhai grwpiau ethnig yn dywyllach nag eraill. Mae gan bobloedd Canolbarth Affrica, yng nghoedwigoedd y Congo, a Gorllewin Affrica, ar hyd Gwlff Gini, groen tywyll iawn, gwallt crychlyd, gwefusau trwchus, trwynau llydain, a breichiau hirion. Yn y gwledydd ar ffiniau deheuol y Sahara a'r Sahel mae nifer o grwpiau o dras gymysg, o ganlyniad i oresgyniadau'r gogleddwyr, a chawsant eu troi'n Fwslimiaid ar y cyfan.

Mae'r bobloedd yn Nwyrain a De Ddwyrain Affrica yn cadw da byw ac yn ffermio'r tir. Ardal gymysg iawn ydyw o ran hil, yn gartref i ddisgynyddion o'r Swdan ac Arabiad yn ogystal â'r grwpiau ethnig brodorol. Mae'r mwyafrif ohonynt yn dal ac yn gryf, megis y Swlŵaid a'r Matabele. I'r gogledd o Wganda trigasa'r Dincaid a'r Shilluk, sydd yn hynod o dal ac yn dywyll. Yn Ucheldiroedd Ethiopia mae'r boblogaeth yn gymysg iawn, ac yn Somalia mae'r bobl yn dywyll eu croen ond yn debycach i Ewropeaid o ran pryd a gwedd yr wyneb.

Khoisan[golygu | golygu cod]

Yng Nghanolbarth a Deheudir Affrica mae sawl grŵp ethnig gynhenid nad ydynt yn perthyn i'r bobloedd dduon eraill. Yn hanesyddol, ni chawsant eu hystyried yn rhan o'r hil Negroaidd Affricanaidd, er eu bod yn groenddu. Maent yn disgyn o'r hen helwyr-gasglwyr, a chawsant eu gyrru i diroedd anffrwythlon y cyfandir gan lwythau amaethyddol. Yng nghoedwigoedd law gogledd ddwyrain y Congo mae'r pigmïaid. Maent yn fyr iawn a chanddynt groen melynllwyd crych a blew esmwyth ar eu cyrff.

Yn Neheudir Affrica mae pobl y prysgoed, y San, sy'n byw yn bennaf yn y Kalahari ym Motswana. Mae ganddynt bryd a gwallt tebyg i'r pigmïaid, er nad oes cymaint o flew ar eu cyrff. Mae olion archaeolegol yn awgrymu i'r San, neu bobloedd debyg, fyw mewn rhannau eraill o Affrica.

Yn Ne Orllewin Affrica hefyd mae'r Khoikhoi, a elwir yn hanesyddol yn Hotentotiaid, sydd yn cadw gwartheg a defaid. Maent yn edrych yn debyg i'r San, ond fel arfer yn dywyllach eu croen.

Affricanwyr croenwyn[golygu | golygu cod]

Ers yr 17g, bu poblogaethau sefydlog o Ewropeaid yn Affrica is-Saharaidd. Tref y Penrhyn oedd y wladfa gyntaf a sefydlwyd, a hynny gan yr Iseldirwyr yn 1652. Erbyn diwedd yr Ymgiprys am Affrica yn y 19g, roedd pob rhan o'r wlad oni bai am Ethiopia a Liberia o dan reolaeth ymerodraethau Ewrop. Yn Ne Affrica a Rhodesia tyfai'r cymunedau croenwyn mwyaf, sy'n disgyn yn bennaf o Brydeinwyr ac Iseldirwyr.