Gruffudd ab Owain Glyndŵr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mab hynaf Owain Glyndŵr a'i wraig Margaret Hanmer oedd Gruffudd ab Owain Glyndŵr (c. 1385 - 1411).

Cymerodd Gruffudd ran yng ngwrthryfel ei dad, ac ef oedd arweinydd y fyddin Gymreig a orchfygwyd gan fyddin Seisnig dan yr Arglwydd Grey o Codnor ym Mrwydr Pwll Melyn ger Brynbuga, Sir Fynwy ar 5 Mai 1405. Cymerwyd Gruffudd yn garcharor, a chadwyd ef yn Nhŵr Llundain ar y cychwyn, yna mewn nifer o gaerau eraill. Bu farw o'r pla du yn 1411.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • J. E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, Clarendon Press, 1931)