Gruffudd Bola

Oddi ar Wicipedia
Gruffudd Bola
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd13 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaAbaty Ystrad Fflur Edit this on Wikidata

Roedd Gruffudd Bola (fl. 1265 - 1282) yn llenor Cymreig yn yr iaith Ladin.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddys amdano. Fe'i gysylltir gan rai awdurdodau ag abaty Ystrad Fflur.[1] Mae'r enw Bola yn ffurf Gymraeg ar y cyfenw Saesneg Bole.[1]

Cyfieithodd Credo Athanasius Sant i'r Gymraeg rywbryd yn 60au neu 70au'r 13g.[1]

Ymgymerodd â'r gwaith hwnnw er mwyn Efa, ferch Maredudd ap Owain, un o ddisgynyddion Rhys ap Gruffydd (yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth) a chwaer i Gruffudd ap Maredudd, a ofynnodd am gyfieithiad o'r Transitus.[1] Un o ddisgynyddion Efa, Gruffudd ap Llywelyn, a gomisiynodd ancr Llanddewibrefi i ysgrifennu compendiwm pwysig o destunau crefyddol Cymraeg a adnabyddir fel Llyfr Ancr Llanddewibrefi (neu Lyfr yr Ancr).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).