Gronw ap Tudur (marw 1400)

Oddi ar Wicipedia
Gronw ap Tudur
Bu farw28 Medi 1400 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Merthyr a ddedfrydwyd i farwolaeth ar y 28 Medi 1400 yn dilyn ymosodiad Owain Glyn Dŵr ar dref Rhuthun oedd Gronw ap Tudur. Crogwyd wyth arall o ddynion y dref am ochri gyda'r gwrthryfel, ond lladdwyd Gronw mewn dull ffiaidd a danfonwyd pedwar chwarter ei gorff i bedwar cornel o Gymru - i bedwar o drefi Coron Lloegr. Gwnaed hyn fel rhybudd i bob Cymro beth fyddai'r canlyniad pe baent yn ochri gyda Glyn Dŵr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]