Grombalia
Oddi ar Wicipedia
Tref yn ardal Cap Bon, gogledd Tunisia yw Grombalia. Mae'n gorwedd ar groesffordd bwysig tua hanner ffordd rhwng Soliman i'r gogledd a dinas Nabeul i'r de.
Cysylltir Grombalia â'r brifddinas, Tunis, gan brif reilffordd y wlad ac mae rhwydwaith o fysus yn rhedeg oddi yno i sawl tref yn y Cap Bon a'r cyffiniau.
Mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r dref yn gymharol fodern, ond mae'n adnabyddus i ysgolheigion pensaernïaeth Andalwsaidd Tunisia fel lleoliad El hammam el Kdim, baddondy cyhoeddus traddodiadol a adeiladwyd yn yr 17eg ganrif pan sefydlwyd Grombalia gan ffoaduriaid o Al Andalus yn Iberia. Roedd yn rhan o'r palas a godwyd yn Grombalia gan Mustapha Cardanas.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Abdelhakim Gafsi, Monuments Andalous de Tunisie (Tunis, 1993), tt. 42-43.