Gregory Sais
Oddi ar Wicipedia
Milwr Cymreig a fu'n ymladd dros frenin Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd ac yn yr Alban oedd Syr Gregory Sais neu Grigor Sais (bu farw 1390). Roedd yn frodor o Sir Fflint ac yn ôl pob tebyg yn fab i Cynwrig Sais ap Ithel Fychan, ac felly'n ddigynnydd i Ednyfed Fychan.
Ceir y cofnod cyntaf amdano fel milwr pan ddisgrifir ef fel capten Beaumont-le-Vicomte ym Maine yn 1360. Ym mis Mawrth 1373, roedd yn aelod o fyddin Seisnig oedd yn ceisio codi gwarchae Chizé yng ngorllewin Ffrainc, ond gorchfygwyd hwy gan fyddin Ffrengig oedd yn cynnwys Owain Lawgoch. Dano ef y cafodd Owain Glyndŵr ei brofiad milwrol cyntaf, fel aelod o garsiwn Berwick-upon-Tweed yn 1384.
Llyfryddiaeth[golygu]
- A. D. Carr, "A Welsh Knight in the Hundred Years War: Sir Gregory Sais" yn Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1977), tt. 40-53
- Hanes Gregory Sais o www.medievalsoldier.org