Greg Minnaar

Oddi ar Wicipedia
Greg Minnaar
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnGreg Minnaar
Dyddiad geni13 Tachwedd 1981
Manylion timau
DisgyblaethBeicio Mynydd Lawr Allt
RôlReidiwr
Tîm(au) Proffesiynol
2003
2004 –
Haro/Lee Dungarees
Team G Cross Honda
Golygwyd ddiwethaf ar
19 Medi, 2007

Seiclwr ffordd proffesiynol o Dde Affrica ydy Greg Minnaar (ganwyd 13 Tachwedd 1981 yn Pietermaritzburg). Ef enillodd Gwmpan y Byd beicio mynydd lawr allt yn 2005. Mae'n rasio dros Team G Cross Honda ac yn cystadlu yng nghyfres pwyntiau NORBA a Cypan y Byd, Beicio Mynydd, UCI.

Er i Greg fod yn llwyddiannus iawn ym myd beicio mynydd, nid dyma oedd ei uchelgais. Bu diddordeb Greg mewn motocross gynt, roedd ei rieni yn gorfod ei gludo i'r trac ac aros a'i wylio tra oedd yn ymarfer motocross, ond roedd eu amser yn brin gan eu bod yn rhedeg siop feics felly ni fu Greg yn gallu ymarfer mor aml a fuasai'n hoffi. Oherwydd hyn, dechreuodd fynd allan ar feic mynydd yn y goedwig i'r gogledd o Pietermaritzburg, datblygodd hyn i fod yn brif chwaraeon iddo gan ei fod yn mwynhau gymaint, yr adrenalin a'r cyffro o fynd lawr allt yn gyflym.[1]

Gadawodd yr ysgol yn fuan yn 16 oed i droi'n seiclwr proffesiynol, er fod ei rieni yn ansicr o'r penderfyniad, roedd ei brifathro yn Alexander High School yn cefnogi hyn gan ddweud y buasai Greg wastad yn gallu dychwelyd i addysg os na fyddai'r gyrfa newydd yn llwyddiannus.[1]

Enillodd wobr Beiciwr Mynydd y Flwyddyn De Affrica yn 2002.[1]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

2001
1af, Cwpan y Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt
2003
1af, Pencampwriaeth Cyfres Bwyntiau NORBA
2004
1af, Pencampwriaeth Cyfres Bwyntiau NORBA
1af, NORBA DH, Cymal 2
1af, NORBA DH, Cymal 3, Mount Snow, Yr Unol Daleithiau
1af, NORBA DH, Cymal 4, Sandpoint
1af, NORBA DH, Cymal 6, Durango, Colorado, Yr Unol Daleithiau
?, Cwpan y Byd Lawr Allt
1af, Cymal 1, Cwpan y Byd Lawr Allt, Fort William, Yr Alban
4ydd, Cymal 6, Cwpan y Byd Lawr Allt, Livigno, Yr Eidal
1af, 'Mexican National DH Finals'
2il, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt, Les Gets, Ffrainc
2005
3ydd, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt
4ydd, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd 4X
1af, Cwpan y Byd Lawr Allt
1af, Cymal 2, Cwpan y Byd Lawr Allt, Willingen, Yr Almaen
1af, Cymal 5, Cwpan y Byd Lawr Allt, Balneario Camboriu, Brasil
1af, Cymal 6, Cwpan y Byd Lawr Allt, Angel Fire, Mexico Newydd
2il, Cymal 4, Cwpan y Byd Lawr Allt, Mount Sainte Anne, Canada
2il, Cymal 7, Cwpan y Byd Lawr Allt, Pila, Yr Eidal
2il, Cymal 8, Cwpan y Byd Lawr Allt, Fort William, Yr Alban
4ydd, Cymal 3, Cwpan y Byd Lawr Allt, Schladming, Awstria
Safle ?, Pencampwriaeth Cyfres Bwyntiau NORBA
2il, NORBA DH, Deer Valley, Yr Unol Daleithiau
2006
Safle ?, Pencampwriaeth Cyfres Bwyntiau NORBA
1af, NORBA DH, Cymal 3, Mount Snow, Yr Unol Daleithiau
1af, NORBA DH, Cymal 4, Deer Valley, Yr Unol Daleithiau
1af, NORBA DH, Cymal 6, Snowmass, Yr Unol Daleithiau
2il, NORBA DH, Cymal 5, Brian Head, Yr Unol Daleithiau
2il, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt, Rotorua, Seland Newydd
Safle ?, Cwpan y Byd Lawr Allt
2il, Cymal 3, Cwpan y Byd Lawr Allt, Willingen, Yr Almaen
2il, Cymal 4, Cwpan y Byd Lawr Allt, Mount Sainte Anne, Canada
3ydd, Cymal 2, Cwpan y Byd Lawr Allt, Fort William, Yr Alban
3ydd, Cymal 6, Cwpan y Byd Lawr Allt, Schladming, Awstria
4ydd, Megavalanche Reunion
2007
1af, Crankworx Dual Slalom
2il, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt
2il, Wheels Of Speed Downhill Challenge, Willingen, Yr Almaen
3ydd, Crankworx Air Downhill
3ydd, Canadian Open Downhill, Whistler, Canada
I'w benderfynnu Cwpan y Byd Lawr Allt
2il, Cymal 3, Cwpan y Byd Lawr Allt, Mount Sainte Anne, Canada
3ydd, Cymal 1, Cwpan y Byd Lawr Allt, Vigo, Sbaen
3ydd, Cymal 4, Cwpan y Byd Lawr Allt, Schladming, Awstria
4ydd, NPS Downhill, Cymal 2, Ae Forest, Yr Alban

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]