Gramadegau Cerdd Dafod

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gramadegau'r penceirddiaid)
Neidio i: llywio, chwilio
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Dros y blynyddoedd, mae nifer o lyfrau a llawysgrifau wedi ymdrin â'r gynghanedd a Cherdd Dafod. Yr enghraifft gyntaf y gwyddys amdani gyda sicrwydd yw Gramadeg Einion Offeiriad a gyfansoddwyd, fe dybir, oddeutu 1320, ac ymron saith can mlynedd yn ddiweddarach, yn 2010, cyhoeddwyd y llyfr Cynghanedd i Blant o waith Mererid Hopwood i gyflwyno'r etifeddiaeth i'r plant lleiaf. Rhwng y ddau begwn hyn, cyhoeddwyd nifer o ymdriniaethau â'r gynghanedd, boed yn ramadegau, yn werslyfrau neu'n astudiaethau.

Erbyn heddiw, mae nifer o'r llyfrau yn ansafonol, ac mae rhai ohonynt yn ffugiadau.

Isod, ceir rhestr o'r prif ymdriniaethau a'r ymdrechion dros y blynyddoedd i gyfundrefnu ac addysgu am Gerdd Dafod mewn trefn gronolegol.

Cynnwys

Y Gramadegau, y Gwerslyfrau a'r Astudiaethau [golygu]

13eg ganrif [golygu]

Ychydig iawn a wyddys am y gramadegydd hwn. Ceir ambell gyfeiriad at ysgolhaig o'r enw Edern yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr ond nid oes sôn am lyfr gramadeg ganddo. Llurguniwyd ei enw gan waith John Williams (Ab Ithel) a Iolo Morganwg pan gyhoeddwyd y testun gwallus Dosparth Edeyrn Davod Aur gan y Welsh Manuscripts Society ym 1856, testun a dadogir ar "Edeyrn Dafod Aur".[1] Y mae'n bosibl er hynny bod Edern wedi ysgrifennu gramadeg cynnar, ond ni ellir bod yn sicr.

14eg ganrif [golygu]

Yr ymgais gyntaf y gwyddys amdani i geisio cyfundrefnu'r gynghanedd. Adolygwyd y gramadeg cyn 1330 gan Ddafydd Ddu Athro gan roi'r sylfaen i'r Pedwar Mesur ar Hugain. Dyma'r cyntaf o dri thraethawd a adwaenir fel Gramadegau'r Penceirddiaid.

15fed ganrif [golygu]

Dyma'r ail draethawd, sef diwygiad o'r gramadeg cyntaf ar ôl i Ddafydd ab Edmwnd ail-strwythuro'r Pedwar mesur ar hugain yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451. Ceir ynddo ymdriniaeth o'r cynganeddion.

16eg ganrif [golygu]

  • Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg, Gruffydd Robert (1567)
Ym mhedwaredd ran y gramadeg hwn, ceir enghreifftiau o rai o fesurau Cerdd Dafod, a pheth o waith beirdd y cyfnod yn y bumed ran.
Dyma'r drydedd fersiwn o Ramadeg y Penceirddiaid, a gysodwyd efallai o ganlyniad i Ail Eisteddfod Caerwys, 1567. Ychwanegwyd adran newydd ar y cynganeddion, gan wneud y Gramadeg hwn yr un mwyaf cynhwysfawr a gafwyd hyd hynny. Mae'n bosibl mai gwaith Gruffudd Hiraethog, athro Simwnt, yw'r adran hon.
  • Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Insitutiones et Rudimenta, Siôn Dafydd Rhys (1592)
Gramadeg Lladin yw hwn, ac y mae'n ramadeg cynhwysfawr sy'n ymdrin â rheolau Cerdd Dafod. Bu'n boblogaidd ymysg beirdd y ddeunawfed ganrif, megis Goronwy Owen, ac y mae'n cynnwys awdl enghreifftiol o waith Simwnt Fychan i Birs Mostyn.
Esbonia'r gramadeg hwn brif hanfodion Cerdd Dafod gan wneud y grefft yn hygyrch i wŷr bonheddig. Fe'i hail-argraffwyd yn y Flores Poetarum Britannicorum yn 1710.[2]

17eg ganrif [golygu]

Yr oedd John Davies o Fallwyd yn arbenigwr ar lawysgrifau Cymraeg, yn eiriadurwr, yn awdur, yn weinidog ac yn ysgolhaig. Llyfr ar ramadeg yr iaith yw hwn, ond cynhwysa bennod fer ar Gerdd Dafod tua'r diwedd.

18fed ganrif [golygu]

Cynhwysa'r gramadeg hwn chwe awdl enghreifftiol gan gamarwain beirdd i gredu mai'r diffiniad o awdl yw cerdd a gynhwysa bob un o'r Pedwar mesur ar hugain. Aeth y gynghanedd o fod yn grefft ar gyfer dosbarthiadau uwch y gymdeithas i fod yn grefft werinol, gan arwain at ddirywiad enbyd yn safon y canu.

19eg ganrif [golygu]

Ni chyhoeddwyd y llyfr hwn tan ar ôl marwolaeth Iolo ym 1826. Ffugiad ydyw sydd yn "ymosodiad ffyrnig"[6] ar gyfundrefn y gynghanedd a mesurau Dafydd ab Edmwnd. Gwnaeth Iolo hyn drwy ffugio nifer o lawysgrifau gan roi bodolaeth i nifer o feirdd o ffrwyth ei ddychymyg ei hun, megis tadogi traethawd ar Lywelyn ap Sion, a thadogi dyfyniadau ar feirdd fel "Dafydd o'r Nant". Adargraffwyd y llyfr yn un â Geiriadur y Bardd, gan roi cyhoeddusrwydd i'r syniadau ffug hyn. Ceisio adfer bri Morgannwg fel canolbwynt Cerdd Dafod oedd bwriad y gramadeg, ac er ei fod yn ffugiad, ystyrir Iolo bellach fel un o ysgolheigion a beirdd mwyaf ei oes.
Cyfrol fechan, sy'n ansafonol hyd yn oed yn ôl safonau'r oes.
Gwerslyfr yw hwn sy'n cymryd ffurf ymddiddan rhwng y disgybl (Ifor) a'r athro (Arthur). Bu'n llyfr poblogaidd iawn ar un adeg, ond y mae'n ddiffygiol yn ôl safonau heddiw wrth ddisgrifio rhai o feiau Cerdd Dafod, a thrwy roi gormod o sylw i waith ffug Iolo Morganwg.

20fed ganrif [golygu]

  • Prif-feirdd Eifionydd, E. D. Rowlands (1914)
Ceir rhan fer iawn ar derfyn y llyfr sy'n esbonio hanfodion y gynghanedd i blant fel y gallant fwynhau miwsig barddoniaeth yn y mesurau caethion. Y mae'n addas ar gyfer dechreuwyr rhonc, ond dim ond esgyrn noethion y gynghanedd a geir yma.
Nid yw'r llawlyfr hwn yn safonol heddiw; y mae'n honni y gall y gytsain "s" galedu cytseiniaid sydd ynghlwm wrthi; a hynny'n anghywir.[9]
Cerdd Dafod yw ffrwyth llafur enfawr Syr John Morris-Jones. Mae'r gyfrol yn parhau i fod yn safonol hyd heddiw ac mewn print ers 1925. Mae'r gyfrol yn defnyddio enghreifftiau gan Feirdd yr Uchelwyr i gefnogi'r rheolau. Ychwanegwyd mynegai o waith Geraint Bowen i'r gyfrol ym 1947.
Llawlyfr sy'n cwmpasu barddoniaeth Gymraeg yw hwn; nid yn unig y gynghanedd; ond nid yw'n gwbl safonol heddiw gan ei fod yn honni, er enghraifft, y gall y gytsain "s" galedu "d", "b" ac "g".[9]
Llawlyfr i "blant o'r 12 i'r 18 oed" yw hwn, ond gall fod yn berthnasol i oedrannau hŷn yn ogystal. Nid yw'n gyfrol cwbl gynhwysfawr, ond y mae'n cyflwyno hanfodion y gynghanedd, y beiau a'r prif fesurau. Ceir hefyd ddadasoddiad byr o arddull rhai o awdlau cynnar yr ugeinfed ganrif. Y mae'r llawlyfr yn crynhoi elfennau o werslyfrau'r cyfnod, ond rhaid nodi nad yw pob un ohonynt yn safonol heddiw, fel Yr Ysgol Farddol ac Y Cynganeddion Cymreig. Ceir nifer o gyfeiriadau at Cerdd Dafod (John Morris-Jones) yn y llyfr.
Llawlyfr bychan sy'n cyflwyno hanfodion y gynghanedd.
Ar ddechrau'r llyfr hwn ceir peth o reolau Cerdd Dafod, gan gynnwys y Pedwar mesur ar hugain a rhai o'r beiau gwaharddedig. Ceir hefyd nodiadau ar y Gynghanedd lusg gan ei bod yn ymwneud ag odlau.
Cyhoeddwyd y llyfr hwn ar ôl cyfres o wersi cynghanedd ar Radio Cymru ar ffurf tair gwers ar ddeg. Yr is-bennawd yw Cwrs Cerdd Dafod, ac fe arweinir y darllenydd drwy'r cynganeddion a rhai mesurau. Y mae'n addas ar gyfer dechreuwyr rhonc. Fel Cerdd Dafod, defnyddir gwaith meistri Beirdd yr Uchelwyr yn fynych i gefnogi'r rheolau.[10]

21ain ganrif [golygu]

  • Anghenion y Gynghanedd - Fersiwn newydd, Alan Llwyd (2007)
Fersiwn newydd o'r llyfr a gyhoeddwyd yn 1973, ond wedi'i hail-wampio'n llwyr. Y mae'n astudiaeth gyflawn a chynhwysfawr.
Fersiwn ddiwygiedig o'r llyfr gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 1978.
Gwerslyfr ar gyfer y plant lleiaf sy'n cyflwyno hanfodion y gynghanedd mewn modd hygyrch a hwyliog.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Meic Stephens, Argraffiad diwygiedig, 1997
  • Anghenion y Gynghanedd, Alan Llwyd, Cyhoeddiadau Barddas, 2007
  • Hanes Llenyddiaeth Gymraeg Hyd 1900, Thomas Parry (ysgolhaig), Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1944

Cyfeiriadau [golygu]

Gweler Hefyd [golygu]