Graig, Casnewydd
Oddi ar Wicipedia
Cymuned a ward etholiadol ym mwrdeisdref sirol Casnewydd yw Graig (Saesneg: Redwick). Saif yng nghornel ogledd-orllewinol y sir. Roedd poblogaeth y gymuned, sy'n cynnwys pentrefi Basaleg, Rhiwderyn, Pentre-poeth a Machen Isaf, yn 5,492 yn 2001.
Gerllaw Basaleg yr oedd Gwernyclepa, cartref Ifor Hael, prif noddwr Dafydd ap Gwilym. Arferai eglwys Basaleg, Eglwys Sant Basil, fod yn gell yn perthyn i Abaty ynys Wydrin. Ceir mawsoliwm teulu Morgan, Tredegyr ynddi. Cyn iddynt symud i Dredegyr, roedd y teulu yn byw ym Mhlas Machen, ger Machen Isaf.
Trefi a phentrefi Bwrdeistref Sirol Casnewydd