Gorsedd Powys

Oddi ar Wicipedia

Gorsedd y Beirdd yw Gorsedd Powys. Ei brif rôl yw trefnu Eisteddfod Powys. Un o'r bedair eisteddfod hanesyddol yw Eisteddfod Powys. Mae 'Powys' yn cynnwys y sir fodern Powys a hefyd yr ardaloedd traddodiadol fel Powys Fadog sy'n cynnwys Wrecsam a Chorwen. Mae ffin y dalaiith yn ymestyn i Bengwern sef ardal Croesoswallt ac Amwythig. Mae hyn yn agos i ffiniau Powys adeg Llywelyn ap Seisyllt tad Gruffudd ap Llywelyn

Aeth Eisteddfod Powys i ardal Corwen chwegwaith 1936, 1951, 1974, 1981, 1988 a 2008.

Er bod eisteddfodau yn dyddio yn ôl at Eisteddfod Aberteifi 1176, sefydwyd y bedair 'newydd' wedi cyfnod Iolo Morganwg sef;

  • Cadair Morgannwg (1792),
  • Cadair Gwynedd (1798),
  • Cadair Dyfed (1818),
  • Cadair Powys (1819).

Dim ond Eisteddfod Powys sydd wedi goroesi, er bod nifer o eisteddfodau newydd wedi dechrau ers hynny.

Roedd yr eisteddfod cyntaf ym Mhowys yn Wrecsam ym 1820. Roedd Goseddiogion Powys yn bresennol i ddathlu canmlwyddiant Eisteddfod Môn yn 2007.