Gorsaf reilffordd Pwllheli
| Pwllheli |
||
|---|---|---|
| Lleoliad | ||
| Lleoliad | Pwllheli | |
| Awdurdod lleol | Gwynedd | |
| Gweithrediadau | ||
| Côd gorsaf | PWL | |
| Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru | |
| Nifer o blatfformau | 1 | |
|
gan National Rail Enquiries |
||
| Defnydd teithwyr blynyddol | ||
| 2008-09 | ||
| 2009-10 | ||
| 2010-11 | ||
| 2011-12 | ||
Mae gorsaf reilffordd Pwllheli yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref arfordirol Pwllheli ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, Cymru. Dyma derfynfa Rheilffordd Arfordir Cambria.
Hanes [golygu]
Cafodd yr orsaf wreiddiol ei hadeiladu ym 1869 gan Reilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru, un o gwmnïau Rheilffyrdd y Cambrian.
Yn dilyn adfer tir, cafodd y rheilffordd ei hymestyn i'r gorllewin, yn nes at ganol y dref, a gorsaf newydd yn cael ei hagor ar y safle presennol ym 1909. Roedd yr orsaf yn cynnwys dau blatfform a doc llwytho bychan, cynllun a oroesodd tan y cyfnod o "resymoli" ym 1976.
Cafodd iard nwyddau ei datblygu ar safle'r orsaf wreiddiol. Roedd y safle hefyd yn cynnwys trofwrdd sydd bellach ym meddiant Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf.
Dyblodd y Great Western Railway y linell rhwng yr orsaf a'r iard nwyddau er mwyn cynyddu cynhwysedd, ond cafodd yr arwyddion eu tynnu yn 1976 ac mae'r adran trac dwbl yn awr yn ffurfio run-round loop hir ar gyfer trenau siarter.
Cyn cau'r lein Afon Wen i Gaernarfon yn 1964, roedd dau wasanaeth cyflym yn ystod yr haf rhwng Pwllheli a Llundain.
Ar 12 Medi 1976, cafodd y ddau flwch arwydd yn yr orsaf ei chau. Cafodd y nifer o lwyfannau eu lleihau i un. Mae archfarchnad wedi cael ei ddatblygu ar y tir diangen.
Gwasanaethau [golygu]
Mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu gweithredu gan Drenau Arriva Cymru ac yn gadael o Bwllheli i Fachynlleth, Amwythig a Birmingham. Mae pob gwasanaeth yn cael eu gweithredu gan ddefnyddio trenau Dosbarth 158. Mae gwasanaethau siarter hefyd yn achlysurol yn dod i ben yn yr orsaf.
|
|||||||||||||||||||||