Gorsaf reilffordd Glanllyn Flag Halt

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Glanllyn Flag Halt
Mathgorsaf reilffordd, cyn orsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1931 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8694°N 3.6402°W Edit this on Wikidata
Map

Gorsaf reilffordd cledrau cul yw Glanllyn Flag Halt, sy'n orsaf ar gais (halt). Adeiladwyd yr orsaf wreiddiol, ar Reilffordd Y Bala a Dolgellau, ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynne, yn o'r prif gyfrandalwyr y rheilffordd, ac yn bellach cyfarwyddwr y Rheilffordd y Great Western. Enwyd yr orsaf ar ôl ei dŷ ar lan arall y llyn, sydd erbyn hyn yn Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Rhwyfer Syr Watkin, neu ei westai, dros y llyn, a buasai signal wedi dangos i yrrwr y trên bod rhywun yn aros amdani.

Erbyn hyn, does yna ddim mynediad amlwg i'r orsaf, felly dydy'r orsaf ddim yn ymddangos ar amserlenni. Ond os bydd rhywun ar y platfform, bydd y trên yn stopio.

Ers 1991, mae Glanllyn wedi troi'n 'Arhosfa Siôn Corn' am ddau ddiwrnod bob mis Rhagfyr, ac mae trenau arbennig yn dod o Lanuwchllyn. Cwblhawyd adeilad newydd erbyn diwedd 2006 i roi mwy o gysur ym mis Rhagfyr.

Rhag-orsaf Heritage Railways  Reilffyrdd Cledrau Cul Yr Orsaf Ddilynol
Pentrepiod   Rheilffordd Llyn Tegid   Llangower

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]