Mae gorsaf reilffordd Abermaw (Saesneg: Barmouth railway station) yn orsaf reilffordd sydd yn gwasanaethu tref arfordirol Abermaw yng Ngwynedd, Cymru. Mae'r orsaf yn gorwedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian ac yn cael ei reoli a'i weithredu gan Trafnidiaeth Cymru. Mae adiladau'r orsaf yn cynnwys canolfan dwristiaeth.
Adeiladwyd yr orsaf yn 1867 gan Reilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cambrian.[1]. Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Cambrian ac wedyn Rheilffordd y Great Western. Ar ôl cyrhaeddiad y rheilffordd daeth y dref'n gyrchfan wyliau[1].