Gorsaf Reilffordd Raven Square, Y Trallwng

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf Reilffordd Raven Square, Y Trallwng
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1981 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Trallwng Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6599°N 3.1598°W Edit this on Wikidata
Map

Gorsaf reilffordd cledrau cul yw Gorsaf Raven Square, sef terminws dwyreiniol y rheilffordd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Aeth y rheilffordd wreiddiol drwy strydoedd Y Trallwng i brif orsaf Rheilffordd y Cambrian yn y dref. Caewyd y rheilffordd ym 1956.

Ailagorwyd rhan orllewinol y rheilffordd gan wirfoddolwyr ar 6 Ebrill 1963 ac estynnwyd y lein yn raddol at Y Trallwng. Penderfynodd Cyngor Tref Y Trallwng i beidio a hcaniatáu ail-agor y lein drwy'r strydoedd, a phenderfynwyd adeiladu gorsaf Raven Square ar gyrion gorllewinol y dref. Agorwyd yr orsaf newydd ar 18 Gorffennaf 1981. Daeth prif adeilad yr orsaf o Eardisley, a thŵr dŵr o Bwllheli. Mae siop, lle chwech, arddangosfa, swyddfa tocynnau a maes parcio sylweddol wrth law. Adeiladwyd sied newydd ar gyfer y cerbydau yn 2006 er mwyn ehangu trenau'n sydyn pan fo'r angen.

Gorsaf Raven Square
Golygfa o ben arall yr orsaf

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Rhag-orsaf Heritage Railways  Reilffyrdd Cledrau Cul Yr Orsaf Ddilynol
Terminws   Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion   Sylfaen
Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.