Gorsaf Reilffordd Mobile (Rheilffordd Gulf, Mobile ac Ohio)
Oddi ar Wicipedia
Lleolir Gorsaf Reilffordd Mobile ar Stryd Beauregard ym Mobile. Adeiladwyd yr orsaf, efallai'r adeilad mwyaf nodedig yn nalaith Alabama, ym 1907 yn ardull Adfywiad Sbaeneg. Fe'i defnyddiwyd fel gorsaf hyd at y 1950au, ac wedyn daeth yn swyddfeydd. Ar ôl cyfnod yn dadfeilio, cafodd ei hatgyweirio yn 2003, ar gost o 18 miliwn o ddoleri. Cyngor y ddinas yw perchennog yr adeilad.