Gorsaf Reilffordd Dduallt
Oddi ar Wicipedia
Gorsaf ar Reilffordd Ffestiniog yw Dduallt, yn 540 troedfeddi (160 m) o uchder a 9.5 milltir o Borthmadog. Does dim ffordd i'r orsaf, ond mae llwybrau cyhoeddus.
Caewyd yr orsaf ar 15 Medi 1939, ac ailagorwyd ar 6 Ebrill 1968. Roedd yn derminws y lein hyd at 8 Gorffennaf 1977, cyn agoriad y gwyriad, adeiladwyd i ennill uchder ac osgoi'r cronfa dŵr Llyn Ystradau, er mwyn cyrraedd Blaenau Ffestiniog.[1].
| Rhag-orsaf | Yr Orsaf Ddilynol | |||
|---|---|---|---|---|
| Platfform Campbell | Rheilffordd Ffestiniog | Tanygrisiau | ||