Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 51°28′55″N 3°10′12″W / 51.482°N 3.170°W / 51.482; -3.170
Heol y Frenhines Caerdydd National Rail logo.svg
Saesneg: Cardiff Queen Street
Cardiff Queen Street station April 2009.JPG
Lleoliad
Lleoliad Caerdydd
Awdurdod lleol Caerdydd
Gweithrediadau
Côd gorsaf CDQ
Rheolir gan Trenau Arriva Cymru
Nifer o blatfformau 3
Cyraeddiadau/gwyriadau fyw a gwybodaeth orsaf
gan National Rail Enquiries
Defnydd teithwyr blynyddol
2009-10 Red Arrow Down.svg 2.438 miliwn
2010-11 Red Arrow Down.svg 2.411 miliwn

Mae gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Caerdydd (Saesneg: Cardiff Queen Street) yn un o'r gorsafoedd rheilffordd prysuraf yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Mae'r orsaf yn un o 20 gorsaf reilffordd yn y ddinas, a 2 yng nghanol y ddinas ynghyd a Caerdydd Canolog. "Caerdydd Heol y Frenhines" yw'r enw a ddefnyddir gan Arriva Cymru ond fel 'Gorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd' neu 'Gorsaf Heol y Frenhines' y cyfeirir ati gan sawl corff swyddogol arall.[1] Enwir yr orsaf ar ôl Heol y Frenhines, sy'n stryd siopa fawr yng nghanol Caerdydd.

Mae bellach yn ganolbwynt i rwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd - system reilffordd sydd yn gwasanaethu Caerdydd, Bro Morgannwg, Penybont-ar-Ogwr a Chymoedd y De. Dyma'r unig orsaf sydd yn cysylltu â gorsaf Bae Caerdydd. Lleolir yr orsaf ar ochr ddwyreiniol Canol Caerdydd gyferbyn â chanolfan siopa ac adloniant y Capitol.

Adfywio[golygu]

Fel rhan o gynllun adfywio gwerth £200 miliwn i roi hwb i cynhwysedd trenau yng Nghaerdydd a'r ardaloedd cyfagos, Mae Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd yn mynd i gael ei ailddatblygu o fis Mehefin 2014, a Ebrill 2013 yn y drefn honno.

Bydd y gorsafoedd yn debyg o ran ddyluniad, yn cynnwys paneli llechi, brics llwyd, toeau arddull-pafiliwn, ffenestri mawr ac arwyddion dur di-staen. Yn Caerdydd Canolog bydd mynedfa ddeheuol deulawr newydd a neuadd tocyn o dan gynlluniau a gyflwynwyd gan Network Rail. Bydd wythfed platfform yng Nghaerdydd Canolog, a bydd pedwerydd a pumed yn Heol y Frenhines Caerdydd yn cael eu gosod. Ar ôl gorffen, bydd nifer y trenau sy'n rhedeg i'r Cymoedd cynyddu o 12 yr awr i 16 yr awr.

Cyfeiriadau[golygu]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Template Railway Stop.svg Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.