Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd
| Heol y Frenhines Caerdydd |
||
|---|---|---|
| Saesneg: Cardiff Queen Street | ||
| Lleoliad | ||
| Lleoliad | Caerdydd | |
| Awdurdod lleol | Caerdydd | |
| Gweithrediadau | ||
| Côd gorsaf | CDQ | |
| Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru | |
| Nifer o blatfformau | 3 | |
|
gan National Rail Enquiries |
||
| Defnydd teithwyr blynyddol | ||
| 2009-10 | ||
| 2010-11 | ||
Mae Gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Caerdydd (Saesneg: Cardiff Queen Street) yn un o'r gorsafoedd rheilffordd prysuraf yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Mae'r orsaf yn un o 20 gorsaf reilffordd yn y ddinas, a 2 yng nghanol y ddinas ynghyd a Caerdydd Canolog. "Caerdydd Heol y Frenhines" yw'r enw a ddefnyddir gan Arriva Cymru ond fel 'Gorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd' neu 'Gorsaf Heol y Frenhines' y cyfeirir ati gan sawl corff swyddogol arall.[1] Enwir yr orsaf ar ôl Heol y Frenhines, sy'n stryd siopa fawr yng nghanol Caerdydd.
Mae bellach yn ganolbwynt i rwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd - system reilffordd sydd yn gwasanaethu Caerdydd, Bro Morgannwg, Penybont-ar-Ogwr a Chymoedd y De. Dyma'r unig orsaf sydd yn cysylltu â gorsaf Bae Caerdydd. Lleolir yr orsaf ar ochr ddwyreiniol Canol Caerdydd gyferbyn â chanolfan siopa ac adloniant y Capitol.
Cyfeiriadau [golygu]