Gorsaf reilffordd Pwllheli

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Pwllheli
Mathgorsaf reilffordd, gorsaf pengaead Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPwllheli Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1909, 1867 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPwllheli Edit this on Wikidata
SirPwllheli Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.888°N 4.417°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH375350 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafPWL Edit this on Wikidata
Rheolir ganTrenau Arriva Cymru Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Mae gorsaf reilffordd Pwllheli yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref arfordirol Pwllheli ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, Cymru. Dyma derfynfa Rheilffordd Arfordir Cambria.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd yr orsaf wreiddiol ei hadeiladu ym 1869 gan Reilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru, un o gwmnïau Rheilffyrdd y Cambrian.

Yn dilyn adfer tir, cafodd y rheilffordd ei hymestyn i'r gorllewin, yn nes at ganol y dref, a gorsaf newydd yn cael ei hagor ar y safle presennol ym 1909. Roedd yr orsaf yn cynnwys dau blatfform a doc llwytho bychan, cynllun a oroesodd tan y cyfnod o "resymoli" ym 1976.

Cafodd iard nwyddau ei datblygu ar safle'r orsaf wreiddiol. Roedd y safle hefyd yn cynnwys trofwrdd sydd bellach ym meddiant Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf.

Dyblodd y Great Western Railway y linell rhwng yr orsaf a'r iard nwyddau er mwyn cynyddu cynhwysedd, ond cafodd yr arwyddion eu tynnu yn 1976 ac mae'r adran trac dwbl yn awr yn ffurfio run-round loop hir ar gyfer trenau siarter.

Cyn cau'r lein Afon Wen i Gaernarfon yn 1964, roedd dau wasanaeth cyflym yn ystod yr haf rhwng Pwllheli a Llundain.

Ar 12 Medi 1976, cafodd y ddau flwch arwydd yn yr orsaf ei chau. Cafodd y nifer o lwyfannau eu lleihau i un. Mae archfarchnad wedi cael ei ddatblygu ar y tir diangen.

Gwasanaethau[golygu | golygu cod]

Mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru ac yn gadael o Bwllheli i Fachynlleth, Amwythig a Birmingham. Mae pob gwasanaeth yn cael eu gweithredu gan ddefnyddio trenau Dosbarth 158. Mae gwasanaethau siarter hefyd yn achlysurol yn dod i ben yn yr orsaf.

Ers Tachwedd 2013, does dim o wasanaethu rhwng Harlech a Phwllheli gan gaeir y Bont Briwet ger Llandecwyn, tan gwblhad pont newydd yn 2015; ond oes gwasanaeth bysiau dros dro.