Goronwy Moelwyn Hughes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Goronwy (Ronw) Moelwyn Hughes (6 Hydref , 18971 Tachwedd, 1955), yn gyfreithiwr Cymreig a gwleidydd a safodd etholiadau dros y Blaid Ryddfrydol a'r Blaid Lafur. Fe wasanaethodd am ddau dymor byr fel Aelod Seneddol Llafur.

Bywyd Cynnar[golygu]

Ganwyd Goronwy Moelwyn Hughes yn Llwyn Onn, Ceredigion ar Hydref 6ed 1897. Ei enw bedydd oedd Goronwy ond wrth yr enw bachigol Ronw yr adnabuwyd o gan amlaf. Yr oedd yr hynaf o chwech o blant y Parchedig Dr John Gruffydd Moelwyn Hughes (1866-1944) ac Anna Maria (Mia) (neé Lewis) ei wraig.[1]

Cafodd ei addysg yn Ysgol y Cyngor Aberaeron cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth. Amharwyd ar ei yrfa academaidd gan doriad y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymunodd Catrawd Gorllewin Efrog a chafodd ei anafu ym 1916. Ym 1917 trosglwyddodd i'r Corfflu Awyr Brenhinol gan wasanaethu fel peilot am weddill y rhyfel.

Byd y Gyfraith[golygu]

Wedi'r rhyfel dychwelodd i Aberystwyth gan raddio BA cyn parhau a'i addysg yng Ngholeg Downing Caergrawnt lle raddiodd LLB gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Cafodd ei alw i'r bar yn 1922 yn y Deml Ganol a fu'n gweithio fel bargyfreithiwr ar gylchdaith gogledd Lloegr. Roedd yn arbenigo yn bennaf ym maesydd cyfraith trafnidiaeth a chyfraith fasnachol. Un o'i achosion nodedig oedd cynrychioli Billy Butlin mewn achos yn ymwneud a'r tir lle yr adeiladwyd Camp Butlins Pwllheli.

Yr oedd yn darlithio ar y gyfraith ryngwladol yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain ac yn darlithio ar Gyfraith Masnachol i Gymdeithas y Gyfraith; roedd o hefyd yn arholwr i'r Cyngor Addysg Gyfreithiol.

Fe ysgrifennodd yn helaeth mewn cylchgronau cyfreithiol a golygodd 7fed argraffiad International Law (1928), a chyfranodd erthyglau i argraffiad 1931-35 o Halsbury's Laws of England Ysgrifenodd, ar y cyd a Dingle Foot, y brif waith safonol ar gyfraith trafnidiaeth News Chronicle Guide to the Road & Rail Traffic Act, 1933

Cafodd ei wneud yn Gwnsler y Brenin ym 1943 ac yn Feinciwr y Deml Ganol ym 1950[2]

Gyrfa Gwleidyddol[golygu]

Yn etholiad cyffredinol 1929, safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth ddiogel y Blaid Lafur - Gorllewin y Rhondda gan golli'n drwm i'r AS Llafur William John. Ym mis Hydref 1930 cafodd ei ddewis fel ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer sedd llawer mwy enilladwy, sef Southport, ond yn yr Etholiad Cyffredinol ym 1931 cafodd ei guro gan yr ymgeisydd y Ceidwadwyr

Ychydig wedi etholiad 1931 ymunodd Hughes a'r Blaid Lafur a safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Llafur yn etholaeth Ceredigion yn etholiad cyffredinol 1935.

Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn ddiwrthwynebiad mewn isetholiad yn etholaeth Caerfyrddin ym 1941, o dan drefniant rhwng y tair plaid fwyaf i beidio cystadlu isetholiadau yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd. Er gwaetha'r ffaith bod Llafur wedi mwynhau tirlithriad enfawr yn etholiad 1945 llwyddodd Hughes i fod yr unig aelod o'r Blaid Lafur i golli sedd yn yr etholiad hwnnw. Cipiwyd y sedd gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Rhys Hopkin Morris.

Dychwelodd Hughes i'r Senedd yn etholiad cyffredinol 1950, pan gafodd ei ethol i sedd Lafur diogel Gogledd Islington yng Ngogledd Llundain. Bu'n cynrychioli'r etholaeth am ddim ond blwyddyn, gan benderfynu peidio ac ail sefyll yn etholiad cyffredinol 1951. Mae bloc o fflatiau yn Hilldrop Crescent, Holloway, Gogledd Islington, wedi ei enwi'n Moelwyn Hughes Court er anrhydedd iddo.

Adroddiad Moelwyn Hughes[golygu]

Ar y 9 Mawrth 1946, bu drychineb yn Burnden Park maes chware clwb pêl droed Bolton Wanderers.[3] Yn y trychineb cafodd 33 o bobl eu lladd a chafodd dros bedwar cant arall eu hanafu pan gorwasgwyd dros 85 mil o gefnogwyr i safle gyda chynhwysedd ar gyfer dim ond 60 mil o gefnogwyr.

Penodwyd Moelwyn Hughes i arwain ymchwiliad i'r trychineb. Fe wnaeth adroddiad swyddogol Moelwyn Hughes argymell rheolaeth fwy trwyadl o feintiau dorf, trwyddedu a rheoleiddio meysydd chwaraeon gan awdurdodau lleol ac archwilio rheolaidd ar feysydd dros 10 mil o gapasiti.[4]

Bywyd Personol[golygu]

Bu'n briod a Louise Mary, merch hynaf barnwr y Llys Apêl Frederick Greer (Barwn Fairfield ). Bu iddynt bedwar o blant dau fab ac un ferch, un o'i feibion oedd yr athro Ifan Moelwyn Hughes o Brifysgol Aberystwyth.[5]

Bu farw yn Golders Green, Middlesex, o drawiad ar y galon, ar 1 Tachwedd 1955.

Gweler Hefyd[golygu]

Casglu'r Tlysau Sydd yn cynnwys ffilm cartref o Moelwyn Hughes a'i dad yn ymgyrch yn etholiad Ceredigion 1935

Cyfraniadau Ronw Moelwyn Hughes ar lawr Tŷ'r Cyffredin

Cyfeiriadau[golygu]

  1. HUGHES , JOHN GRUFFYDD MOELWYN yn y Bywgraffiadur arlein adalwyd 20 Chwef 2014
  2. Hughes, Goronwy [Ronw] Moelwyn (1897–1955), lawyer and politician gan G. R. Rubin yn The Oxford Dictionary of National Biography
  3. Burnden Park football disaster remembered 65 years on adalwyd 20 Chwef 2014
  4. Mr. Moelwyn Hughes' report on the Bolton Football Ground disaster yn Archif y Spectator adalwyd 20 Chwef 2014
  5. BMDS Online Ifan Moelwyn Hughes Obituary adalwyd 20 Chwef 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Daniel Hopkin
Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin
19411945
Olynydd:
Rhys Hopkin Morris
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Leslie Haden-Guest
Aelod Seneddol dros Gogledd Islington
19051951
Olynydd:
Wilfred Fienburgh