Gorllewin Swydd Aberdeen a Kincardine (etholaeth seneddol y DU)
Cyfesurynnau: 57°15′00″N 3°17′24″W / 57.250°N 3.290°W
Gorllewin Swydd Aberdeen a Kincardine | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
Ffiniau Gorllewin Swydd Aberdeen a Kincardine yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 1997 |
Aelod Seneddol | Andrew Bowie Ceidwadwyr |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Kincardine a Deeside |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Mae Gorllewin Swydd Aberdeen a Kincardine yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1997 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Ceir hefyd etholaeth o'r un enw, sy'n ethol cynrychiolydd ar gyfer Senedd yr Alban.
Mae'r etholaeth o fewn rhan ddeheuol Cyngor Swydd Aberdeen.
Cynrychiolwyd yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Stuart Donaldson, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Ym Mehefin 2017, cipiwyd y sedd gan Andrew Bowie (Ceidwadwyr). Llwyddodd i ddal ei afael yn y sedd yn 2019.
Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]
Etholiad | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
1997 | Syr Robert Smith | Rhyddfrydwyr | |
2015 | Stuart Donaldson | SNP | |
2017 | Andrew Bowie | Ceidwadwyr | |
2019 | Andrew Bowie | Ceidwadwyr |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015