Gogledd Swydd Ayr ac Arran (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia

Cyfesurynnau: 55°38′13″N 4°54′54″W / 55.637°N 4.915°W / 55.637; -4.915

Gogledd Swydd Ayr ac Arran
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Awdurdodau unedol yr AlbanGogledd Swydd Ayr
Poblogaethtua 135,000 (2008)
Etholaethautua 74,985
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolPatricia Gibson Logo
Nifer yr aelodau1
Crewyd oGogledd Cunninghame
18681918
Olynwyd ganBute a Gogledd Swydd Ayr
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Gogledd Swydd Ayr ac Arran yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Fe'i lleolwyd oddi fewn i ffiniau sirol Dwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae trefi cyfoethog Largs, Fairlie a Gorllewin Kilbride yng ngogledd yr etholaeth a threfi gweithiol Ardrossan, Kilbirnie, Dyffryn Garnock, Kilwinning, Saltcoats a Stevenston i'r de. Saif Ynys Arran ac Ynys Cymru Fawr (Great Cumbrae) hefyd o fewn yr etholaeth.

Rhwng 1987 a 2015 y Blaid Lafur sydd wedi cynrychioli'r etholaeth; cyn hynny, y Ceidwadwyr.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Patricia Gibson, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Aelod Seneddol[golygu | golygu cod]

Etholiad Aelod Plaid
2005 Katy Clark Llafur
2015 Patricia Gibson SNP
2017 Patricia Gibson SNP
2019 Patricia Gibson SNP

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015