Go Dda, Gareth!

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Go Dda Gareth)
Go Dda, Gareth!
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurLonna Bradley
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1 Mehefin 2001 Edit this on Wikidata
PwncNofelau Cymraeg i blant a phobol ifanc
Argaeleddallan o brint
ISBN9780863817335
Tudalennau80 Edit this on Wikidata

Casgliad o straeon byrion ar gyfer plant gan Lonna Bradley yw Go Dda, Gareth!. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2001. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod]

Casgliad o chwech o straeon ysgafn a doniol am fachgen direidus sydd mewn helynt yn aml wrth geisio gwrthsefyll bygythiadau tri bwli lleol; i ddarllenwyr 8-11 oed. Ceor 11 llun du-a-gwyn.

Mae Go Dda, Gareth! wedi ei osod fel cyfres o straeon byr oll yn trafod bywyd y prif gymeriad sef Gareth a sut mae'n delio a sawl agwedd o fywyd. Y prif destun yw, mae'n debyg, bwlio a sut mae Gareth yn ymdopi ac yna yn delio a'r bwlio mewn ffyrdd digon digri. Mae hiwmor yn ymddangos yn aml yn y straeon a cheir darlun clir o fywyd diddorol y bachgen ifanc. Ysgrifennwyd y llyfr gan Lonna Bradley o Ffestiniog sydd wedi cyhoeddi un llyfr arall i blant yn y gorffennol, sef Helyntion Lwlw Rôs.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013