Glesyn Cyffredin
| Glesyn Cyffredin | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Lycaenidae |
| Llwyth: | Polyommatini |
| Genws: | Polyommatus |
| Rhywogaeth: | P. icarus |
| Enw deuenwol | |
| Polyommatus icarus (Rottemburg, 1775) |
|
Glöyn byw sydd yn gyffredin ar dir agored caregog gwyllt, yn enwedig ar arfordir gogledd a gorllewin Cymru yw'r Glesyn Cyffredin sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy Gleision Cyffredin; yr enw Saesneg yw Common Blue, a'r enw gwyddonol yw Polyommatus icarus.[1] [2] Mae'r wyau yn lwyd-wyrdd. Mae'r lindysyn yn deor ymhen naw diwrnod.
Fel arfer mae'r fenyw yn frown, ond mae ffurf yn bodoli sy'n las.
Yn yr un teulu mae'r Glesyn Serennog a'r Glesyn Bach.
Cynnwys |
Cynefin [golygu]
Ei gynefin arferol ydy gogledd Ewrop, Asia a gogledd Affrica, ond rhwng 2005 a 2008 cafodd y glöyn hwn ei ddarganfod a'i arsylwi yn Mirabel, Quebec, Canada gan entomolegydd amatur o'r enw Ara Sarafian.
Bwyd [golygu]
Mae'r siani flewog yn bwyta dail Lathyrus spp., Vicia spp., Vicia cracca, Oxytropis campestris, Lotus corniculatus, Trifolium pratense, Oxytropis pyrenaica, Astragalus aristatus, Astragalus onobrychis, Astragalus pinetorum, Medicago romanica, Medicago falcata a Trifolium repens.
Cyffredinol [golygu]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r glesyn cyffredin yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.