Glee (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Glee
Genre Sioe gerdd
Drama-gomedi
Drama -arddegau
Serennu Dianna Agron
Chris Colfer
Jessalyn Gilsig
Jane Lynch
Jayma Mays
Kevin McHale
Lea Michele
Cory Monteith
Heather Morris
Matthew Morrison
Mike O'Malley
Amber Riley
Naya Rivera
Mark Salling
Harry Shum Jr.
Jenna Ushkowitz
Darren Criss
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 6
Nifer penodau 121
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 42 - 45 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Fox
Darllediad gwreiddiol 19 Mai, 200920 Mawrth, 2015
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Cyfres deledu Americanaidd sy'n gymysgedd o sioe gerdd, comedi a drama ydy Glee, a ddarlledir ar Fox. Canolbwyntia'r gyfres ar gôr sioe (a elwir yn glwb glee hefyd), o'r enw "New Directions!", a leolwyd yn yr Ysgol Uwchradd William McKinley ffuglennol yn Lima, Ohio.[1] Darlledwyd rhaglen beilot y sioe ar ôl American Idol ar 19 Mai, 2009,[2] a dechreuodd y gyfres gyntaf ar 9 Medi, 2009.[3] Ar 21 Medi 2009 cytunodd Fox yn swyddogol i greu cyfres gyfan.[4] Darlledodd Glee ei finale canol-cyfres ar 9 Rhagfyr 2009. Wedi iddi gael saib o 4-mis tan 13 Ebrill, dechreuwyd i ddarlledu eto yn 2010 gyda 9 rhaglen o'r gyfres sydd ar ôl.[5] Ar 11 Ionawr, 2010, cyhoeddodd Llywydd Fox, Kevin Reilly yn nhaith Gaeaf y Wasg fod Glee wedi cael ei chomisiynu am ail gyfres.[6].

Yn wreiddiol, bwriad crewyr y sioe Ryan Murphy, Brad Falchuk, a Ian Brennan oedd creu Glee fel ffilm gyda Murphy'n dewis cerddoriaeth y gyfres, gan gynnal cydbwysedd rhwng caneuon o sioeau cerdd a chaneuon o'r siart. Rhyddheir y caneuon a ganir yn y sioe ar iTunes yn ystod wythnos y darllediad, a rhyddheir cyfres o albymau Glee drwy Columbia Records, gan ddechrau gyda Glee: The Music, Volume 1, a ryddhawyd ar 3 Tachwedd, 2009. Mae cerddoriaeth Glee wedi bod yn llwyddiant masnachol gyda dros ddwy filiwn o werthiannau digidol.

Mae'r sioe wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol. Er i Alessandra Stanley yn The New York Times dynnu sylw at ddiffyg gwreiddioldeb a chymeriadau ystrydebol y rhaglen beilot, canmolodd berfformiadau a thalent y cast. Enillodd y sioe Wobr Golden Globe yn 2010 am y Gyfres Gomedi Orau a derbyniodd dri enwebiad arall am yr Actores Orau (Lea Michele), yr Actor Gorau (Matthew Morrison), a'r Actores Gefnogol Gorau (Jane Lynch).[7]

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Rachel berry
  • Quinn Fabrey
  • Fin Hudston
  • Artie Abrams
  • Kurt hummel

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 'Glee' series set in a Lima high school has Toledo connection too Archifwyd 2012-02-02 yn y Peiriant Wayback. Mike Kelly. The Blade. The Toledo Times. 17 Mai, 2009. Adalwyd ar 19 Mai, 2009
  2. Fox Holds "Glee" Tryouts After "American Idol" Tuesday, May 19 - New One-Hour Musical Comedy Series to Preview Post-American Idol Archifwyd 2013-10-22 yn y Peiriant Wayback. 5 Mawrth, 2009. Adalwyd ar 19 Mai, 2009. Fox Broadcasting Company
  3. Matt Mitovich Fox Moves Up Two Fall Premieres; Plus a Glee Video Preview Archifwyd 2014-10-20 yn y Peiriant Wayback. TV Guide. 28 Gorffennaf 2009. Adalwyd ar 28-07-2009
  4. Fox sings praises of "Glee" with full-season pickup The Futon Critic. 21-09-2009. Adalwyd ar 01-10-2001
  5. 'Glee' co-creator gets big Fox deal Variety. Michael Schneider. 01-12-2009. Adalwyd ar 05-15-2009
  6. Abrams, Natalie Glee Picked Up For Season 2 Archifwyd 2014-04-14 yn y Peiriant Wayback. TV Guide. 11-01-2010. Adalwyd ar 11-01-2010
  7. Joyce Eng Glee Scores Four Golden Globe Nominations Archifwyd 2010-02-21 yn y Peiriant Wayback. TV Guide. 15-12-2009