Glöyn Apolo

Oddi ar Wicipedia
Parnassius apollo
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Papilionidae
Genws: Parnassius
Rhywogaeth: P. apollo
Enw deuenwol
Parnassius apollo
(Linnaeus, 1758)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn Apolo, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gloynnod Apolo; yr enw Saesneg yw Apollo, a'r enw gwyddonol yw Parnassius apollo.[1][2]

Lleoliad a chynefin[golygu | golygu cod]

Gellir ei chanfod fel arfer ar fynyddoedd yn Ewrop sydd rhwng 1,000 m (3,300 ft) a 2,000 m (6,600 ft). Mae'r glöyn hwn o ddiddordeb mawr i'r gyddonydd yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth enfawr o isrywogaethau; ceir rhai isrywogaeth mewn un cwm yn unig yn yr Alpau, er enghraifft. Mae gan y glôyn byw hwn isrywiogaethau ledled y byd. Mae'r Apolo Bach, i'w ganfod hefyd ar fynyddoedd uchel a'r Parnassius mnemosyne yn byw mewn dyffrynoedd.

Lliw[golygu | golygu cod]

Oherwydd ei brydferthwch mae wedi cael ei gasglu'n ddiddiwedd gan naturiaethwyr, gan brinhau'n enbyd yn Sbaen a'r Eidal; aeth yn brin hefyd oherwydd fod ei gynefin yn cael ei newid a'i ddwyn oddi wrtho. credir fod cerbydau'n gyfrifol am ddifa rhai isrywiogaethau cyfan yn ne Tyrol, yr Eidal.

Parnassius apollo
Siani flewog

Ceir "llygaid mawr", ymylon du ar ei adenydd blaen gwyn a llygad coch ar yr adenydd ôl.[3] Gall maint y llygaid cochion hyn wahaniaethu yn ddibynol ar leoliad; maen nhw hefyd yn newid eu lliw yn yr haul: po mwyaf heulog ydyw, mwya golau yw cochni'r llygaid.

Bwyd[golygu | golygu cod]

Yng nghanol yr haf mae'r oedolyn i'w weld, a neithdar planhigion yw ei fwyd.[4] Mae'r siani flewog yn hoff iawn o fwyta rhywogaethau o Sedum (briweg) a Sempervivum (llysiau pen tai).[3]

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r glöyn apolo yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. 3.0 3.1 Carter, D. (2000) Butterflies and Moths. Dorling Kindersley, London.
  4. Fred, M.S., O’Hara, R.B. and Brommer, J.E. (2006) Consequences of the spatial configuration of resources for the distribution and dynamics of the endangered Parnassius apollo butterfly. Biological Conservation, 130: 183-192.