Giro d'Italia
Ras seiclo sy'n cynnwys sawl cymal yw'r Giro d'Italia (Taith yr Eidal), a adnabyddir yn fyr fel Y Giro. Mae'r ras, sydd ar gyfer seiclwyr proffesiynol, yn para tair wythnos, ac yn cael ei chynnal yn flynyddol ar ddiwedd Mai a dechrau Mehein o amgylch yr Eidal. Mae'r Giro yn un o'r tri Grand Tour, ac yn rhan o galendr Rheng y Byd UCI. Yr enillydd diweddaraf (yn 2012) oedd Ryder Hesjedal.
Cynnwys |
Hanes[golygu]
Ysbrydolwyd y Giro gan y Tour de France ac, yn yr un modd a ddyfeiswyd y ras Ffrengig i hybu gwerthiant L'Auto, bwriadodd Emilio Camillo Costamagna, golygydd La Gazzetta dello Sport, i gynyddu cylchrediad ei bapur ef. Dechreuodd y Giro d'Italia cyntaf ar 13 Mai 1909 ym Milan, gydag wyth cymal a chyfanswm o 2,448 cilometr (1,521 milltir). Luigi Ganna oedd enillydd y rhifyn cyntaf.
Crysau[golygu]
Mae arweinydd cyffredinol y Giro wedi gwisgo crys pinc y maglia rosa ers 1931, gan gyd-fynd â'r papur pinc a argraffwyd y La Gazzetta dello Sport arni ar y pryd. Mae Brenin y Mynyddoedd yn gwisgo'r maglia verde (crys gwyrdd). Mae arweinydd y dosbarthiad pwyntiau yn gwisgo'r maglia ciclamino (crys piwswyn), a'r reidiwr ifanc gorau yn gwisgo'r maglia bianca (crys gwyn).
Yr Eidalwr Felice Gimondi sy'n dal y record am y nifer o weithiau iddo orffen ar y podiwm, gyda chyfanswm o naw: tair buddugoliaeth, dau ail safle a pedwar trydydd safle.
Maglia rosa[golygu]
Gwisgir y maglia rosa pob dydd gan y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o'r amser a gymerwyd i gyflawni'r cymalau hyd hynnu. Gall y reidiwr sy'n gwisgo'r crys newid pob dydd wrth i'r ras fynd yn ei flaen, ond mae'r timau yn tueddi i wneud eu gorau i gadw eu reidwyr yn y crys oherwydd ceir ymddangosiad mwy yn y wasg i'r noddwyr a gwobrau ariannol. Mae pob tîm yn dod a chrysau pinc eu hunain i'r ras, gyda logos eu noddwyr arni rhag ofn bydd un o'u reidwyr hwy yn arwain y ras ar unrhyw adeg. Y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o amser ar ddiwedd y ras yw enillydd cyffredniol y Giro a'r maglia rosa, yn yr un modd ag enillir y Maillot Jaune yn y Tour de France.
- 5 buddugoliaeth: Alfredo Binda (1925, 1927, 1928, 1929, 1933), Fausto Coppi (1940, 1947, 1949, 1952, 1953), Eddy Merckx (1968, 1970, 1972, 1973, 1974)
- 3 buddugoliaeth: Giovanni Brunero (1921, 1922, 1926), Gino Bartali (1936, 1937, 1946), Fiorenzo Magni (1948, 1951, 1955), Felice Gimondi (1967, 1969, 1976), Bernard Hinault (1980, 1982, 1985)
Maglia verde[golygu]
Yn ystod cymalau mynyddig y ras, gwobrwyir pwyntiau i'r reidiwr cyntaf i gyrraedd copa pob esgyniad sylweddol. Bydd sawl o'r reidwyr canlynol drost y copa yn derbyn llai o bwyntiau yn dibynnu ar eu safle a caletwch yr esgyniad. Caiff yr elltydd eu dosbarthu mewn gwahanol gategoriau, caiff y categori ei benderfynnu ar sail faint mor serth a hir yw'r allt. Gwisgir y maglia verde (crys gwyrdd) gan arweinydd y gystadleuaeth, sef y reidiwr sydd gyda'r cyfanswm mwyaf o bwyntiau dringo ar ddechrau'r cymal. Os yw reidiwr yn dal y maglia rosa a'r verde, gwisgir y maglia verde gan y reidiwr sydd yn ail yn y gystadleuaeth hwnnw. Enillydd maglia verde y Giro pob blwyddyn yw'r reidiwr sydd gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau dringo ar ddiwedd y ras. Mae nifer o reidwyr yn anelu yn arbennig i geisio ennill y gystadleuaeth hon, yn arbennig y rhai sydd ddim yn sbrintwyr na'r dreialwyr-amser cryf. Mae'r un peth yn wir gyda'r Crys Dot Polca yn y Tour de France. Enillydd maglia verde 2012 oedd Matteo Rabottini.
Pwyntiau:
- Hors catégorie (HC): 20, 18, 16, 14, 12, 10, 8, 7, 6 a 5.
- Categori 1: 15, 13, 11, 9, 8, 7, 6 a 5.
- Categori 2: 10, 9, 8, 7, 6, a 5.
- Categori 3: 4, 3, 2 a 1.
- Categori 4: 3, 2 a 1.
Caiff y pwyntiau ar gael eu dyblu ar gyfer yr esgyniad olaf yn y cymal (categori HC, 1 a 2 yn unig).
- 7 buddugoliaeth: Gino Bartali
- 4 buddugoliaeth: José Manuel Fuente
- 3 buddugoliaeth: Claudio Chiappucci, Claudio Bortolotto, Franco Bitossi, Fausto Coppi
Maglia ciclamino[golygu]
Gwobrwyir pwyntiau tuag at cystadleuaeth y sbrintwyr i'r reidwyr cyntaf i groesi'r llinell mewn cymalau gwastad, ac mewn sbrintiau canolraddol ar bwyntiau dynodedig yn ystod cymal. Mae'r nifer o bwyntiau yn amrywio, gan ddibynnu ar faint mor galed yw'r cymal, y nifer o esgyniadau a'u categori. Gwisgir y maglia ciclamino gan y reidiwr sy'n arwain y gystadleuaeth ar ddechrau pob cymal, sef y reidiwr sydd gya'r cyfanswm mwyaf o bwyntiau sbrintio. Y reidiwr sydd â'r cyfanswm mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y ras yw enillydd maglia ciclamino y Giro. Enillir y gystadleuaeth gan sbrintwyr fel rheol, sydd gyda ychydig os unrhyw obaith o allu ennill yn y dosbarthiad cyffredinol. Mae'r maglia ciclamino yn cyfateb i maillot vert y Tour de France. Enillydd y gystadleuaeth hon yn 2012 oedd Joaquim Rodríguez.
Pwyntiau:
Cymalau Gwastad- Gwobrwyir 35, 30, 26, 24, 22, 20, 19, 18, 17, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 pwynt i'r 25 reidiwr cyntaf i orffen cymal.
Cymalau mynyddig canolig- Gwobrwyir 25, 22, 20, 18, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2, 1 pwynt i'r 20 reidiwr cyntaf i orffen cymal.
Cymalau mynyddig uchel- Gwobrwyir 20, 17, 15, 13, 12, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2, 1 pwynt i'r 15 reidiwr cyntaf i orffen cymal.
Treialon amser- Gwobrwyir 15, 12, 10, 8, 6, 5, 4, 3, 2, 1 pwynt i'r 10 reidiwr cyflymaf yn y cymal.
Gall cymalau gynnwys sawl sbrint canolraddol: Gwobrwyir 6, 4, a 2 o bwyntiau i'r 3 reidiwr cyntaf i groesi'r llinellau rhain.
Y nifer fwyaf o fuddugoliaethau yn y gystadleuaeth bwyntiau:
- 4 buddugoliaeth: Francesco Moser, Giuseppe Saronni
- 3 buddugoliaeth: Mario Cipollini, Roger De Vlaeminck, Johan Van der Velde
Maglia bianca[golygu]
Mae cystadleuaeth y reidiwr ifanc gorau o fewn y Giro, sy'n dathlu reidwyr ifanc. Gwobrwyir y maglia bianca (crys gwyn) i'r reidiwr ifanc gorau, sef y reidiwr odan 25 oed sydd yn y safle uchaf yn y dosbarthiad cyffredinol, yn yr un modd a'r Crys Gwyn yn y Tour de France. Gwisgir y crys hwn, fel yn y cystadlaethau eraill, gan arweinydd y gystadleuaeth a ddechrau pob cymal. Enillwyd maglia bianca 2012 gan Rigoberto Urán.
Rhestr yr enillwyr cyffredinol[golygu]
Buddugoliaethau yn ôl gwlad[golygu]
| Rheng | Gwlad | Buddugoliaethau |
|---|---|---|
| 1 | 67 | |
| 2 | 7 | |
| 3 | 6 | |
| 4 | 3 | |
| 3 | ||
| 3 | ||
| 7 | 2 | |
| 8 | 1 | |
| 1 | ||
| 1 | ||
| 1 |
Buddugoliaethau cymalau'r Giro d'Italia[golygu]
| Rheng | Enw | Gwlad | Nifer[2] |
|---|---|---|---|
| 1 | Mario Cipollini | 42 | |
| 2 | Alfredo Binda | 41 | |
| 3 | Learco Guerra | 31 | |
| 4 | Costante Girardengo | 30 | |
| 5 | Eddy Merckx | 25 | |
| 6 | Alessandro Petacchi | 24 | |
| Giuseppe Saronni | 24 | ||
| 8 | Francesco Moser | 23 | |
| 9 | Fausto Coppi | 22 | |
| Roger De Vlaeminck | 22 | ||
| 11 | Franco Bitossi | 21 | |
| 12 | Giuseppe Olmo | 20 | |
| Miguel Poblet | 20 |
Recordiau[golygu]
- Y nifer fwyaf o fuddugoliaethau: 5 - Alfredo Binda, Fausto Coppi ac Eddy Merckx
- Y nifer o ddyddiau yn y maglia rosa: 76 - Eddy Merckx
- Y nifer fwyaf o fuddugoliaethau cymalau mewn un Giro d'Italia: 12 - Alfredo Binda yn Giro d'Italia 1927
- Y nifer fwyaf o ffuddugoliaethau cymalau yn ganlynol: 8 - Alfredo Binda yn Giro d'Italia 1929
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ The 1912 Giro was run as a team competition
- ↑ 87th Giro d'Italia: a bit of History. dailypeloton.com.
Nodyn:Maglia ciclamino Nodyn:Maglia Verde Nodyn:Maglia bianca