Giotto

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Giotto, gerllaw'r Uffizi.

Arlunydd a phensaer Eidalaidd oedd Giotto, enw llaw Giotto di Bondone (tua 1267 - 8 Ionawr 1337). Ystyrir ef y cyntaf o arlunwyr mawr y Dadeni Eidalaidd.

Credir iddo gael ei eni mewn ffermdy yn Colle di Romagnano neu Romignano ger Fflorens, yn fab i ŵr o'r enw Bondone, ond mae llawer o ansicrwydd ynghylch ei fywyd.

Yn ei lyfr Bywydau'r Arlunwyr, mae Giorgio Vasari yn dweud ei fod yn fugail pan yn fachgen, ac i'r arlunydd Cimabue ei weld yn tynnu lluniau ei ddefaid ar graig, ac adnabod ei dalent a'i gymeryd fel prentis. Tua 1280, dilynodd Giotto ei athro Cimabue i Rufain, lle'r oedd ysgol enwog o arlunwyr ffresco, yn cynnwys Pietro Cavallini. Mae'n debyg i Giotto fynd gyda Cimabue i Assisi a gweithio ar y darluniau ffreco ym Masilica Sant Ffransis yno, ond nid oes prawf o hyn.

Campwaith Giotto yn ôl y farn gyffredinol yw'r gyfres o luniau ffresco yn y Cappella degli Scrovegni (Capel Scrovegni) yn Padua, a orffenwyd tua 1305. Mae'r rhain yn dangos golygfeydd a fywyd y Forwyn Fair a dioddefaint Crist.

Rhwng 1306 a 1311 roedd Giotto yn Assisi, lle ceir nifer o luniau ffreco o'i waith o'r cyfnod yma. Dychwelodd i Fflorens yn 1311, ac roedd yn Rhufain yn 1313. Yn 1328, gwahoddodd Robert o Anjou ef i Napoli, lle arhosodd hyd 1333. Yn 1334 penodwyd ef yn brif bensaer Eglwys Gadeiriol Fflorens.

Bu farw yn 1337, ac yn ôl Vasari claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Fflorens.

Galeri[golygu]