Gion

Oddi ar Wicipedia
Tai traddodiadol yn ardal Gion
Bwyty dethol iawn yn Gion

Ardal o Kyoto, Siapan yw Gion (祇園), a dyfodd fel canolfan llety i deithwyr yn yr Oesoedd Canol ac ar gyfer ymwelwyr â Chysegrfa Yasaka. Datblygodd i fod yr ardal geisha fwyaf adnabyddus a dethol yn Japan.

Dydy geishas Gion ddim yn galw eu hunain yn geisha; defnyddient y term lleol geiko, sy'n fath o fachigyn o'r gair geisha ('artist', 'un sy'n ymarfer y celfyddydau'); mae geiko yn derm mwy uniongyrchol sy'n golygu "plentyn y celfyddydau" (gei 'celfyddydau' + ko 'plentyn') neu "merch celfyddyd."

Ceir dwy hanamachi (cymuned geiko) yn Gion : Gion Kōbu (祇園甲部) a Gion Higashi (祇園東). Gwelir geikos a maikos (prentisiaid i fod yn geisha) yn cerdded y strydoedd yn eu kimonos lliwgar o hyd.

Nodweddir Gion gan ei 'thai te' (o-chaya) niferus ac mae geikos yn gweithio mewn rhai ohonynt. Camgymeriad a welir yn aml yw cyfeirio at Gion fel ardal golau coch, ond difyrwyr yw'r geikos, ers cyfnod yr arglwyddi samurai, nid puteiniaid; lleolir ardal golau coch draddodiadol Kyoto yn Shimabara.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: