Gilbert, Esgob Llanelwy

Oddi ar Wicipedia
Gilbert, Esgob Llanelwy

Gilbert, Esgob Llanelwy (fl. 1140 - 1152) yw'r cyntaf o esgobion Llanelwy i gael ei gofnodi mewn dogfennau cyfoes. Yr unig esgobion a wyddys cyn amser Gilbert yw'r seintiau Cyndeyrn ac Asaph, yn Oes y Seintiau.

Ychydig iawn a wyddys amdano. Fel mae ei enw'n awgrymu, Normaniad oedd Gilbert. Cafodd ei benodi'n esgob Llanelwy tua'r flwyddyn 1141 (y dyddiad mwyaf tebygol) neu 1143.

Dim ond tri chyfeiriad ato sydd wedi goroesi. Daw'r cyfeiriad cyntaf mewn llythyraeth rhwng Bernard, Esgob Tyddewi a'r Pab Ewgeniws III (1145-53) ynglŷn â hawl Esgob Tyddewi i fod yn archesgob Cymru (swydd nad oedd yn bodoli ar y pryd). Dywed y llythyr i Gilbert gael ei urddo'n esgob yn ystod carchariad y brenin Steffan o Loegr (1141). Daw'r ail gyfeiriad mewn cofnod yn archifau Eglwys Gadeiriol Caergaint sy'n honni iddo gael ei benodi yn 1143.

Ni cheir cofnod fod Gilbert wedi tyngu llw o ffydlondeb personol i Archesgob Caergaint, a oedd yn ceisio gosod ei awdurdod ar eglwysi Cymru, ond mae'n bur debygol iddo wneud hynny.

Cafodd Gilbert ei olynu gan Sieffre o Fynwy fel esgob Llanelwy yn 1152, ond nid oes sicrwydd ei fod wedi marw y flwyddyn honno.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Michael Richter, Giraldus Cambrensis[:] The growth of the Welsh Nation (Aberystwyth, 1976), tt. 36-7.