Geto

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ghetto)

[[Delwedd:Krakow Ghetto Gate 73170.jpg|250px|bawd|Porth geto Krakow, Gwlad Pwyl, 1941 Enw ar ardal ddifreinitedig neu slwm a breswylir yn bennaf gan leiafrif ethnig yw geto.

Yn wreiddiol, roedd geto yn enw ar ardal mewn dinas a neilltuid ar gyfer Iddewon gan y gyfraith. Dechreuodd yr arfer yn yr Eidal yn ystod yr Oesoedd Canol ac ymledodd oddi yno i nifer o wledydd Ewropeaidd eraill yn ystod y Gwrth-Ddiwygiad ac ar ôl hynny.

Yn ystod y 19g dileuwyd y cyfyngiadau cyfreithiol, a pharheai getoau i fodoli am resymau cymdeithasol a diwylliannol yn unig.

Ond yn y 1930au ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd creuwyd getoau newydd gan y Natsïaid, er enghraifft yn Warsaw.