Gethin Jenkins

Oddi ar Wicipedia
Gethin Jenkins
Ganwyd17 Tachwedd 1980 Edit this on Wikidata
Llanilltud Faerdref Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Gyfun Bryn Celynnog Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Pontypridd, Rygbi Caerdydd, RC Toulonnais, Rygbi Caerdydd, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Safleprop Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw Gethin Jenkins (ganed 17 Tachwedd 1980). Mae'n chwarae i dîm rhanbarthol Gleision Caerdydd, ac mae wedi cynrychioli Cymru nifer o weithiau. Gall chwarae fel prop pen-rhydd neu prop pen-tynn.

Ganed ef yn Llanilltud Faerdre a'i addysgu yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, Beddau. Bu'n chwarae dros glwb Pontypridd cyn trosglwyddo i'r Rhyfelwyr Celtaidd pan ddechreuodd rygbi rhanbarthol yn 2003. Wedi i'r Rhyfelwyr gael eu dirwyn i ben, aeth i chwarae i'r Gleision.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Romania yn 2003. Roedd yn rhan allweddol o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 2005, gan chwarae ym mhob gêm, a sgorio cais cofiadwy yn erbyn Iwerddon. Aeth ar daith i Seland Newydd gyda'r Llewod yn 2005, gan chwarae yn y tair gêm brawf yn erbyn y Crysau Duon.

Dewiswyd ef yn gapten Cymru ar gyfer eu gêm yn erbyn De Affrica ym mis Tachwedd, 2007. Dechreuodd yn y tair gêm olaf pan enillwyd y Gamp Lawn eto yn 2008.