Gerddi Clun

Oddi ar Wicipedia
Gerddi Clun
Mathgardd fotaneg, gardd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5959°N 4.0032°W Edit this on Wikidata
Map
Y Pwll Siapaneg yn y Gwanwyn
Y porth wrth fynedfa'r de i Erddi Clun

Mae Gerddi Clun yn ardd fotaneg sydd wedi'i lleoli yn Abertawe, Cymru. Fe'i lleolir oddi ar Heol y Mayals, ger yr heol arfordirol rhwng Abertawe a'r Mwmbwls.

Atyniadau[golygu | golygu cod]

Lleolir Castell Clun yng Ngerddi Clun hefyd. Mae'r gerddi'n cynnwys 19 hectar o dir a thros 2,000 o blanhigion, gan gynnwys dros 800 o rhododendrons.

Mae'r gerddi'n cynnwys nant, gerddi corsiog botanaidd a choedwig Normanaidd.

Mae Magnolia talaf y Deyrnas Unedig wedi ei leoli yno. Mae'r goedwig derw yn mynd yn ôl i gyfnod Coedwig Clun, a oedd yn fan Normanaidd hanesyddol pwysig yn ystod yr 11g.

Datblygwyd y gerddi gan y teulu Vivian yn y cyfnod Fictorianaidd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]