Gerbera

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gerbera
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Is-deulu: Mutisioideae
Llwyth: Mutisieae
Genws: Gerbera
L.
Rhywogaethau

Tua 30

Mae gerbera (Gerbera L.) yn blanhigyn addurniadol sy'n dod o deulu blodyn yr haul (Asteraceae). Cafodd ei enwi fel teyrnged i'r naturyddwr Almaenig Traugott Gerber, a oedd yn ffrind i Carolus Linnaeus.

Mae iddo tua 30 rhywogaeth yn y gwyllt, yn ymestyn o Dde America trwy Affrica a Madagascar i'r Asia drofannol. Gwnaed y disgrifiad gwyddonol cyntaf ohono gan y botanegydd J. D. Hooker yng nghylchgrawn Botaneg Curtis ym 1889 pan ddisgrifiodd y Gerbera jamesonii, rhywogaeth o Dde Affrica sy'n cael ei adnabod fel 'Llygad y dydd Transvaal' neu 'Lygad y dydd Barberton'.

Botanical template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato