Geraint Morris

Oddi ar Wicipedia
Geraint Morris
Ganwyd28 Mawrth 1941 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw12 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata

Roedd Geraint Morris (28 Mawrth 194112 Gorffennaf 1997) yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm a theledu Cymreig. Ganwyd ym Merthyr Tudful.[1]

Ei waith cyfarwyddo cyntaf oedd The Onedin Line (1971). Yn ddiweddarach, gweithiodd ar Sutherland's Law, Barlow at Large a Juliet Bravo.

Yn ystod y 1970au, daeth Morris yn gynhyrchydd teledu, gan ddechrau gyda'r ddrama heddlu Softly, Softly, o 1973 tan 1976.

Erbyn 1980, roedd Morris yn gweithio ym myd y teledu'n llwyr. Helpodd greu'r gyfres deledu hynod lwyddiannus Casualty (sydd wedi cael ei darlledu ers 1986) a chyfrannodd at y gyfres am y pedair cyfres gyntaf cyn iddo adael ar ddiwedd 1989.

Bu farw yng Nghasnewydd, Gwent ym mis Gorffennaf 1997 o ganlyniad i gancr yr ysgyfaint. Roedd yn 56 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hayward, Anthony. Obituary: Geraint Morris (en) , The Independent, 14 Gorffennad 1997. Cyrchwyd ar 2 Chwefror 2016.