George Buchanan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
George Buchanan

Roedd George Buchanan, (Gaeleg yr Alban: Seoras Bochanan, Chwefror 1506 - 28 Medi, 1582) yn hanesydd a dyneiddiwr Albanaidd a rhan o'r mudiad Monarchomach.

Ganed ef yn Killearn, ger Stirling, a bu farw ei dad yn ieuanc gan adael y teulu yn dlawd. Yn 1520 gyrrodd ei ewythr, James Heriot, ef i astudio i Brifysgol Paris, ond pan fu farw ei ewythr yn 1522 ni allodd barhau yno. Dychwelodd i'r Alban, lle cymerodd ran mewn ymgyrch filwrol aflwyddiannus i Loegr. Aeth i Brifysgol St Andrews, lle graddiodd yn B.A. yn 1525, yna dychwelodd i Brifysgol Paris lle graddiodd yn M.A. yn 1528.

Roedd gan Buchanan ddiddordeb yn y syniadau Protestannaidd newydd, ond parhaodd yn aelod o'r Eglwys Gatholig yr adeg yma. Pan fu erlid ar y Lutheriaid yn yr Alban yn 1539 ffôdd i Baris, ond pan ddarganfu fod ei elyn, y cardinal David Beaton, yno, aeth ymlaen i Bordeaux, lle daeth yn athro Lladin yng Ngholeg Guienne. Ysgrifennodd nifer o'i weithiau gorau yma, ac roedd Michel de Montaigne yn un o'i fyfyrwyr. Yn 1542 neu 1543 dychwelodd i Baris, yna yn 1547 aeth i Brifysgol Coimbra, Portiwgal. Yma cyhuddwyd ef o fod yn ddilynydd Luther, a charcharwyd ef am saith mis. Dychwelodd i Baris, yna yn 1560 neu 1561 i'r Alban, lle daeth yn diwtor i'r frenhines ieuanc, Mari I. Erbyn hyn roedd yn Brotestant agored. Yn ddiweddarach daeth yn diwtor i'w mab, Iago VI. Bu farw yng Nghaeredin yn 1582, gan gael ei gladdu ym mynwent Greyfriars.

Ysgrifennodd nifer fawr o weithiau, ac ystyrir ef yn un o awduron Lladin gorau y cyfnod modern. Ymhlith ei weithiau pwysicaf mae De Jure Regni, lle awgryma fod grym yn dod o'r bobl, yn hytrach nag o'r brenin, a Rerum Scoticarum Historia, a orffennodd ychydig cyn ei farwolaeth, sy'n adrodd hanes yr Alban. Yn y llyfr hwn, ef oedd y cyntaf i nodi fod grŵp o ieithoedd ym Mhrydain ac Iwerddon a hen iaith Gâl oedd ar wahan i'r ieithoedd Lladin a'r ieithoedd Germanaidd, a galwodd hwy yr ieithoedd Galaidd. Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair Celt am rai o drigolion Prydain ac Iwerddon, gan awgrymu fod Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban wedi cyrraedd yno gydag ymfudwyr o dde Gâl. Nid oedd ef yn cynnwys y Brythoniaid yn ei ddefnydd o'r term "Celt".