George Armstrong Custer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
George A. Custer

Cadfridog ym myddin yr Unol Daleithiau oedd George Armstrong Custer (5 Rhagfyr, 1839 - 25 Mehefin, 1876).

Ganed ef yn New Rumley, Ohio, yn fab i Emanuel Henry Custer (1806-1892) a Marie Ward Kirkpatrick (1807-1882). Aeth i Academi Filwrol West Point, lle graddiodd yn olaf o ddosbarth o 34 cadet yn 1861, yn fuan ar ôl i Ryfel Cartref America ddechrau. Ymladdodd mewn nifer o frwydrau gan wneud enw iddo'i hun fel arweinydd a hoffai ymosod. Dri diwrnod cyn Brwydr Gettysburg yn 1863, apwyntiodd y Cadfridog Pleasonton ef yn frigadydd dros dro. Nid oedd ond 23 oed; un o'r cadfridogon ieuengaf yn y fyddin. Bu ganddo ef a'i ŵyr ran bwysig ym muddugoliaeth Gettysburg.

Wedi diwedd y Rhyfel Cartref bu'n ymladd yn erbyn pobloedd frodorol y Gwastadeddau Mawr. Cafodd ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Little Big Horn gan fyddin o ryfelwyr Sioux, Cheyenne ac Arapaho, dan arweiniad Thasuka Witco ("Crazy Horse"), Gall a Tatanka Lyotake ("Sitting Bull"), er nad oedd yr olaf yn bresennol ar faes y frwydyr.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Ambrose, Stephen E. (1996 [1975]). Crazy Horse and Custer: The Parallel Lives of Two American Warriors (Efrog Newydd: Anchor Books)