George Davies

Oddi ar Wicipedia
George Davies
Ganwyd12 Tachwedd 1905 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1989 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Athro Cymraeg a dramodydd a aned yn Nhreorci, Cwm Rhondda oedd George Davies (12 Tachwedd 190528 Tachwedd 1989).[angen ffynhonnell]

Enillodd nifer o wobrau am ei ddramâu yn cynnwys Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946 am ei ddrama Diffodd yr Haul. Pefformiwyd nifer o'i ddramâu ar radio y BBC. Daeth yn aelod cynnar o'r Blaid Genedlaethol ar ôl iddo gael ei ddylanwadu fel plentyn ysgol yn Y Pentre, Rhondda gan D. J. Williams Abergwaun a aeth yno'n athro. Cyd-sefydlodd gymdeithas ddrama yn y Rhondda a daeth yn aelod o Gylch Cadwgan ac yn gyfaill i lenorion eraill yn y Cwm yn cynnwys James Kitchener Davies, Rhydwen Williams, Haydn Lewis Y Ton ac Alban Davies. Rhwng y ddau Ryfel Byd bu'n weithgar dros y Blaid yn y Rhondda gan drefnu nifer o gyfarfodydd a annerchwyd gan wladgarwyr blaenllaw megis W. J. Gruffydd, Kate Roberts, J. E. Jones a Griffith John Williams (Heddiw Mehefin-Awst 1942, Y Fflam Calan Mai 1947). Roedd yn gyfaill agos i eraill sef Wil Berry ag Ambrose Bebb (ei gymdeithion ar daith drwy Ffrainc a'r Eidal yn y 1930au a gofnodir gan Bebb yn y gyfrol Crwydro'r Cyfandir, 1936).

Fel rhan o ddathlu Gŵyl Prydain ym 1950 ysgrifennodd a chynhyrchodd Basiant y Rhondda a berfformiwyd gan blant ysgolion y Rhondda yn Neuadd y Parc a'r Dar.[angen ffynhonnell]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]