Genjutsu

Oddi ar Wicipedia

Yn y gyfres manga ac anime Naruto, techneg rhith yw Genjutsu (幻術 Japaneg) sy'n cael ei ddefnyddio trwy chakra a seliau llaw fel ninjutsu. Yn wahanol i ninjutsu, mae genjutsu yn ymosod ar yr elfen meddyliol y dioddefwr yn lle yr elfen corfforol.

Itachi wrth ddefnyddio genjutsu, er mwyn troi mewn i frân

Effeithiau[golygu | golygu cod]

Mae genjutsu yn achosi'r dioddefwr i weld neu deimlo rhithiau tra'u bod o dan y fath dechneg. Er nad yw'r corff o dan drawma corfforol, mae'r techneg yn effeithio ar yr ymenydd, ac yna yn creu aflonyddwch y synhwyrau. Fel arfer, mi fydd corff y person o dan genjutsu wedi'i barlysu. Er mwyn rhoi stop i'r genjutsu, mae rhaid cael aflonyddwch mewn llif chakra y dioddefwr. Fel arfer, mae angen i ninja arall aflonyddu'r chakra, ond gall bwystfil cynffonnog o fewn jinchuriki gwneud y fath peth hefyd.

Sharingan[golygu | golygu cod]

Y Sharingan yw dechneg llinell gwaed yr Uchiha, ac y mae'r fath dechneg yn galluog iawn o fewn genjutsu. Gyda cyswllt llygaid, gall y ddefnyddiwr genjutsu effeithio ar unigolyn yn hawdd.

Braich Danzo wedi'i orchuddio gyda sawl Sharingan

Itachi Uchiha, brawd Sasuke Uchiha, yw ninja galluog iawn o fewn y dechneg genjutsu. Yn y gorffennol, llwyddodd Itachi defnyddio'r dechneg genjutsu y Tsukuyomi ar Kakashi Hatake, er bod Sharingan hefyd gyda Kakashi.

Yn ystod y brwydr yn erbyn Sasuke, defnyddiodd Danzo genjutsu mewn sawl ffordd gyda'r Sharingan yn gorchuddio'i fraich, gan gynnwys Izanagi.

Rinnegan[golygu | golygu cod]

Y Rinnegan yw'r dechneg llygaid cryfaf yn y gyfres, er nad oes llawer o wybodaeth amdano. Nodiad gwych y Rinnegan yw'r ffaith bod y defnyddiwr yn gallu defnyddio unrhyw dechneg y mae nhw'n dymuno. Yn ystod yr arch Pein, defnyddiodd Pein genjutsu trwy'r synhwyr o gyffwrdd. Rhoddodd rhoden metal i fewn i gorff y dioddefwr a hefyd corff ei hun er mwyn rheoli'r llif chakra. Yn ôl Jirayia, yn syml, mae rhaid i'r unigolyn llifo'i chakra mewn i'r dioddefwr.