Geni'r Iesu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y bugeiliaid yn addoli, Gerard van Honthorst, 1622

Mae Geni'r Iesu yn cyfeirio at hanes genedigaeth Iesu Grist, wedi'i seilio'n bennaf ar yr hanes a gofnodwyd yn Efengyl Mathew ac Efengyl Luc, yr unig ddau efengyl yn y Beibl sy'n cyfeirio at enedigaeth Iesu o gwbl. I Gristnogion, mae'r hanes hwn yn sail i stori'r Nadolig.

Yr Hanes yn yr Efengylau[golygu]

Mae Mathew a Luc yn cyfeirio at eni Iesu ym Methlehem Jwdea, a hynny i wyryf, sef Mair, Mair Forwyn fel y'i gelwir yn gyffredin. Daw llawer o stori'r Nadolig o Efengyl Luc, sy'n adrodd hanes Joseff a Mair yn teithio o Nasareth i Fethlehem i gofrestru mewn cyfrifiad o Ymerodraeth Rhufain a alwyd gan Gesar Awgwstws. Genir Iesu, ei rwymo mewn cadachau, a'i osod mewn preseb, gan nad oedd lle iddynt yn y llety. Gerllaw mae bugeiliaid yn gwarchod eu praidd liw nos, pan ddaw angel i gyhoeddi "newydd da am lawenydd mawr" gan gyhoeddi bod baban wedi ei eni ac mai ef yw'r Gwaredwr, y Meseia, yr Arglwydd. Ar ôl clywed yr angel, mae'r bugeiliaid yn mynd i ymweld â'r baban a'i rieni, gan ailadrodd yr hyn a glywsant.

Mae Efengyl Mathew yn cyfeirio at ddoethion o'r dwyrain, sy'n gweld seren brenin yr Iddewon yn yr awyr, ac yn dod i Jerwsalem i chwilio am y baban er mwyn ei addoli. Maent yn dilyn y seren ac ar ôl cyrraedd Iesu ym Methlehem, tref Dafydd, maent yn syrthio o'i flaen i'w addoli ac yn rhoi tri anrheg iddo, aur a thus a myrr.

Wedi clywed bod y doethion yn galw Iesu yn frenin yr Iddewon, mae Herod, brenin Jwdea, yn rhoi gorchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem o dan ddwy flwydd oed. Erbyn hynny, fodd bynnag, mae Joseff a Mair a'r baban Iesu wedi dianc i'r Aifft yn dilyn breuddwyd yn eu rhybuddio, cyn dychwelyd yn y pen draw i Nasareth.

Dadansoddiad hanesyddol[golygu]

Y dybiaeth draddodiadol i Gristnogion oedd mai Gair Duw oedd hanes Iesu Grist yn yr Efengylau, ac felly bod hanes y Geni fel y caiff ei adrodd yn y Testament Newydd yn hanesyddol ffeithiol gywir. I ysgolheigion cyfoes, fodd bynnag, mae'r hanes fel y'i cofnodwyd gan Mathew a Luc yn destun cryn drafodaeth. Yn un peth, noda rhai nad yw'r hanes yn y ddau Efengyl yn cyd-fynd â'i gilydd, ac mae rhai ysgolheigion o'r farn nad oes sail hanesyddol i lawer o'r straeon.[1][2] I lawer o ysgolheigion, dogfennau diwynyddol yw'r Efengylau, ac felly ni fyddai pwyslais yr awduron ar gywirdeb a threfn hanesyddol y straeon.[3][4][5] Fodd bynnag, mae rhai ysgolheigion Cristnogol yn dadlau bod y safbwynt Cristnogol traddodiadol yn bosibl, bod yr hanes yn yr Efengylau yn hanesyddol gywir ac nad yw Luc a Mathew yn gwrth-ddweud ei gilydd.[6]

Celf a cherddoriaeth[golygu]

Drama'r Geni[golygu]

Mae "ail-greu" hanes geni'r Iesu ar ffurf drama yn gyffredin fel rhan o ddathliadau'r Nadolig, yn bennaf gan blant ysgol Sul a phlant yn gyffredinol mewn cyngherddau Nadolig ysgolion. Fel arfer bydd drama'r geni yn gyfuniad o sawl stori unigol yn y Testament Newydd, ac mae angylion, bugeiliaid a doethion yn sefyll o gwmpas y preseb gyda'i gilydd yn addoli'r baban Iesu yn ddarlun cyffredin iawn yn hynny o beth.

Caneuon[golygu]

Dethlir geni'r Iesu mewn nifer o garolau'r Nadolig, megis I Orwedd Mewn Preseb.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Gospel of Matthew gan Daniel J. Harrington 1991 ISBN 0814658032 tudalen 47
  2. Jeremy Corley New Perspectives on the Nativity, Continuum International Publishing Group, 2009 tudalen 22.
  3. Interpreting Gospel Narratives: Scenes, People, and Theology gan Timothy Wiarda 2010 ISBN 0805448438 tudalennau 75-78
  4. Jesus, the Christ: Contemporary Perspectives gan Brennan R. Hill 2004 ISBN 1585953032 tudalen 89
  5. Recovering Jesus: the witness of the New Testament Thomas R. Yoder Neufeld 2007 ISBN 1587432021 tudalen 111
  6. Mark D. Roberts Can We Trust the Gospels?: Investigating the Reliability of Matthew, Mark, Luke and John Good News Publishers, 2007 tudalen 102

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Beibl.net — y Testmant Newydd mewn Cymraeg llafar syml