Genghis Khan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Genghis Khan
Ymerodraeth y Mongoliaid ar farwolaeth Genghis Khan.

Ghengis Khan (Mongoleg: Чингис Хаан, Tsieineeg: 成吉思汗 pinyin: Chèngjísī Hàn, Twrceg: Chengez Khan, Chinggis Khan, Chingis Khan), ganed fel Temüjin , (tua 1162 - 18 Awst 1227), oedd sylfaenydd Ymerodraeth y Mongol.

Ganed Temüjin i deulu uchelwrol ym Mongolia; roedd ei daid, Qabul Khan, eisoes wedi bygwth ffiniau China. Fodd bynnag, gwenwynwyd ei dad, Yesugei, gan y Tartariaid, a bu ei deulu fyw mewn tlodi am gyfnod. Cyn hir dechreuodd Temüjin ddangos gallu mewn brwydr a chasglu dilynwyr. Enillodd nifer o fuddugoliaethau ac yn 1206 cymerodd yr enw Ghengis Khan. Cyn hir roedd yn feistr ar Mongolia ac yn dechrau bygwth y gwledydd o’i hamgylch.

Yn y cyfnod yma, roedd China wedi ei rhannu yn bedair teyrnas. Ymosododd Ghengis Khan ar Hsi-hsia neu Xixia. Erbyn 1214 roedd wedi cyrraedd Beijing, a’r flwyddyn wedyn cipwyd y ddinas gan un o’i gadfridogion. Wedi hyn, dychwelodd i Mongolia, lle enillodd fuddugoliaethau pellach, gan ymestyn y ffin hyd at y teyrnasoedd Islamaidd yn y gorllewin. Erbyn 1223 roedd wedi gorchfygu teyrnas Jwarizm.

Bu farw Genghis Khan yn Awst 1227 tra’n ymgyrchu yn erbyn Brenhinllin Jin a’r Xia Gorllewinol yn China. Nid oes sicrwydd am achos ei farwolaeth; dywed rhai iddo syrthio oddi ar gefn ei geffyl a marw o’i anafiadau. Gofynnodd am gael ei gladdu mewn bedd heb ei nodi, yn ôl arfer ei lwyth, a gwnaed hynny, rhywle ym Mongolia (ger mynydd sanctaidd Burkhan Khaldun, i'r gogledd o Ulan Bator, yn ôl un traddodiad).

Cafodd bedwar mab gyda'i wraig Borte:

Un o feibion Tolui oedd Kublai Khan, a ddaeth yn ymerawdwr cyntaf Brenhinllin Yuan yn Tsieina.