Gendun Drup, y Dalai Lama 1af

Oddi ar Wicipedia
Gendun Drup, y Dalai Lama 1af
Ganwyd1391 Edit this on Wikidata
Sakya Edit this on Wikidata
Bu farw1474 Edit this on Wikidata
Samzhubzê District Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddDalai Lama Edit this on Wikidata
TadGonpo Dorjee Edit this on Wikidata
MamJomo Namkha Kyi Edit this on Wikidata

Dalai Lama cyntaf Tibet oedd Gendun Drup (Tibeteg: དགེ་འདུན་གྲུབ་ dge ’dun grub) (13911474). Mae Tibetiaid yn credu ei fod, fel ei olynwyr, yn ymgnawdoliad o Chenresig (Sansgrit: Avalokiteshvara), Bodhisattva Trugaredd.

Cafodd Gendun Drup ei eni mewn teulu o fugeiliaid nomadig a gweithiodd fel bugail yn blentyn. Ei enw genedigol oedd Pema Dorje (Tibeteg པད་མ་རྡོ་རྗེ་ pad ma rdo rje). Aeth yn fynach yn Mynachlog Narthang, ac erbyn ei ganol oed roedd yn cael ei barchu fel sant ac ysgolhaig mawr. Roedd yn nai i'r sant-ysgolhaig enwog Tsongkhapa.

Er na chafodd ei adnabod yn Ddalai Lama yn ystod ei oes, cyhoeddodd yr ail Dalai Lama, Gendun Gyatso, ei fod yn olynydd iddo.

Yn 1447, sefydlodd Gendun Drup fynachlog fawr Tashilhunpo (Tashilunpo) yn Shigatse, a ddaeth yn nes ymlaen yn sedd i'r Panchen Lamas.

Doedd gan Gendun Drup ddim grym gwleidyddol. Rheolwyd Tibet ranedig gan llywodraethwyr fel y Sakyas, Tywysog Tsang a Khan Mongolia. Ni fyddai rhol gwleidyddol y Dalai Lama yn cychwyn tan deyrnasiad y 5ed Dalai Lama.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd draethawd ar yr Abhidharma-kosa, cerdd hir epig ar fywyd y Bwdha Shakyamuni, cerdd gyflwynedig i Je Tsongkhapa (Btsong-ka-pa), a cherdd ddefosiynol gysegredig i'r dduwies Fwdhaidd Tara.

Rhagflaenydd:
dechrau'r llinach
Dalai Lama
13911472
Olynydd:
Gendun Gyatso