Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
8fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig
Dinas Kingston, Jamaica
Gwledydd gymrodd rhan 34
Athletwyr gymrodd rhan 1316 (cyn. swyddogion)
Campau 110
Seremoni agoriadol 4 Awst
Seremoni cau 13 Awst
Prif leoliad Independence Park
VII IX  >

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966 oedd yr wythfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Kingston, Jamaica, oedd cartref y Gemau rhwng 4-13 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn y Caribî yn ystod Gemau Olympaidd Rhufain ym 1960 gyda Jamaica yn sicrhau 17 pleidlais, Caeredin 12 a Salisbury, Rhodesia 5.

Cafwyd newid i'r rhestr chwaraeon am y tro cyntaf ers 1950 wrth i badminton a saethu gymryd lle bowlio lawnt a rhwyfo.

Cafodd Hen Wlad Fy Nhadau ei chwarae am y tro cyntaf i gyfarch medal aur gan Gymro wrth i Arglwydd Abertawe wrthod symud o'r podiwm ar ôl i God Save The Queen chwarae hyd nes bo'r band yn chwarae'r anthem Gymreig.[1]

Chwaraeon[golygu]

Timau yn cystadlu[golygu]

Cafwyd 34 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1966 gyda Antigua a Barbuda, De Arabia a Tanzania yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau[golygu]

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Baner Lloegr Lloegr 33 24 23 80
2 Baner Awstralia Awstralia 23 28 22 73
3 Baner Canada Canada 14 20 23 57
4 Baner Seland Newydd Seland Newydd 8 5 13 26
5 Ghana 5 2 2 9
6 Baner Trinidad a Tobago Trinidad a Tobago 5 2 2 9
7 Baner Pakistan Pacistan 4 1 4 9
8 Baner Kenya Kenya 4 1 3 8
9 Baner India India 3 4 3 10
10 Baner Nigeria Nigeria 3 4 3 10
11 Baner Cymru Cymru 3 2 2 7
12 Baner Malaysia Malaysia 2 2 1 5
13 Baner Yr Alban Yr Alban 1 4 4 9
14 Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 1 3 3 7
15 Baner Ynys Manaw Ynys Manaw 1 0 0 1
16 Baner Jamaica Jamaica 0 4 8 12
17 Baner Bermwda Bermuda 0 1 0 1
18 Flag of the Bahamas (1953-1964).svg Bahamas 0 1 0 1
19 Baner Guyana Gaiana 0 1 0 1
20 Baner Uganda Uganda 0 1 0 1
21 Flag of Papua New Guinea 1965.svg Papua Guinea Newydd 0 0 3 3
22 Flag of Barbados (1870–1966).png Barbados 0 0 1 1
Cyfanswm 110 110 120 340

Medalau'r Cymry[golygu]

Roedd 54 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Lynn Davies Athletau Naid hir
Aur Arglwydd Abertawe Saethu Reiffl 303
Aur Kum Weng Chung Codi Pwysau Pwysau plu
Arian Clive Longe Athletau Decathlon
Arian Horace Johnson Codi Pwysau Pwysau canol
Efydd Ieuan Owen Codi Pwysau Pwysau ysgafn
Efydd Robert Reynolds Ffensio Epeé

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Rhagflaenydd:
Perth
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Caeredin